Cyngerdd arbennig yn Llambed i ddathlu’r daucanmlwyddiant.

Neuadd y Celfyddydau Campws Prifysgol y Drindod Dewi Sant Llambed nos Sadwrn, Tachwedd 26ain

gan Lowri Thomas

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn edrych ymlaen at barhau i ddathlu’r daucanmlwyddiant drwy gynnal cyngerdd mawreddog yng nghwmni myfyrwyr, cyn fyfyrwyr a ffrindiau’r Brifysgol.

Bydd y gyngerdd hon, a gynhelir yn Neuadd y Celfyddydau ar Gampws Llambed nos Sadwrn, Tachwedd 26ain yn cynnwys perfformiad cyntaf o Symffoni Rhif 1 ‘Gorau Awen Gwirionedd’ a gyfansoddwyd gan Eilir Owen Griffiths gyda libretto gan Dr Grahame Davies.

Bydd nifer o gyn fyfyrwyr o’r Brifysgol yn perfformio yn y gyngerdd gan gynnwys y tenor Rhys Meirion, yr actor a’r canwr Huw Euron, a sêr o Welsh of the West End, Luke McCall a Glain Rhys.

Yn ogystal, bydd rhai o fyfyrwyr presennol y Brifysgol o Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru yn perfformio, ynghyd â Chôr CF1 y mae Eilir yn ei harwain, sy’n dathlu ugain mlynedd eleni; a Chôr Caerdydd sydd hefyd yn dathlu carreg filltir o 30 mlynedd eleni, ac fe fydd y British Sinfonietta yn cyfeilio.

Dywedodd Eilir Owen Griffiths:

“Mae’n fraint o’r mwyaf derbyn comisiwn mor arbennig gan y Brifysgol i gyfansoddi symffoni fel rhan o ddathliadau’r daucanmlwyddiant. Mae’r comisiwn i ddathlu’r garreg filltr bwysig hon yn golygu llawer i mi nid yn unig fel aelod o staff y Brifysgol, ond hefyd fel cyn fyfyriwr a raddiodd o’r cwrs Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau union ugain mlynedd yn ôl. Yn sicr ni fyddwn wedi gallu cyfansoddi gwaith o’r fath heb y cyfleoedd a dderbyniais yn ystod fy nghyfnod fel myfyriwr yma.

“Mae gweithio gyda Dr Grahame Davies wedi bod yn brofiad anhygoel, ac heb os nac oni bai y catalydd gorau i gyfansoddi’r gerddoriaeth ar gyfer y symffoni hwn oedd ei ddawn gyda geiriau.”

Mae’r symffoni ‘Gorau Awen Gwirionedd’  wedi cael ei rhannu i fewn i bedwar symudiad. Mae pob symudiad yn cyfeirio at agweddau gwahanol o’r Brifysgol ac yn portreadu’i hanes dros y ddwy ganrif ddiwethaf. Dechreuir y gwaith gyda ffanffer sy’n ymdebygu i orymdaith ar ddiwrnod graddio a defnyddir geiriau Dewi Sant “Byddwch Lawen” fel atganau gan y cor.

Mae’r symffoni 50 munud o hyd yn cynnwys pedwar unawdydd, ffidlwr, côr o gant o leisiau a cherddorfa lawn.

Bydd y symudiad cynta’ yn cynrychioli cyfnod cynnar y Brifysgol yn Llambed a Chaerfyrddin gyda teimlad defosiynol yn cynnwys Gweddi i Dewi a gosodiad o “O Lux Beata Trinitas/Oleuni’r Drindod ddiwahan”.

Yn yr ail symudiad cawn gyfeiriadau at Ddewiniaeth a’r Dewin Myrddin a hefyd a chlywir hefyd y geiriau cyfarwydd ‘Gorau Awen Gwirionedd’ o arwyddair Prifysgol Cymru. Mae’r symudiad hwn llawn synau hudolus wedi ei blethu gyda direidi y dewin.

Man canol y gwaith yw yr “Intermezzo: Canghenau’r Dderwen Fawr” darn ar gyfer cerddorfa linnynol. Bydd y bont gerddorol hon yn cynrychioli canghennau’r dderwen fawr yn tyfu a dyfodiad Abertawe i stori’r Brifysgol ac yn wir gwneud cysylltiadau â gweddill y byd.

Shanti Forwrol hynod gyffrous yw y trydydd symudiad. Clywir cerddoriaeth hwyliog, gwerinol gyda’r ffidlwr yn arwain law yn llaw gyda’r bariton.

Cynrychioli’r presennol a’r dyfodol fydd y pedwerydd symudiad yn ei wneud gyda’r gerddoriaeth yn canolbwyntio ar themâu fel yr amgylchedd, gwyddoniaeth a’r dyfodol. Bydd yna gerddoriaeth fwy modern yn y symudiad hwn gyda cyfle i gynnwys idiomau Theatr Gerddorol sydd mor berthnasol i gyrsiau presennol y Brifysgol.

Mae’r libretto wedi’i gyfansoddi mewn tair iaith, yn Gymraeg, Saesneg a Lladin unwaith eto fel ffordd i gynrychioli’r Drindod.

Mae modd archebu tocynnau i’r gyngerdd drwy ddilyn y ddolen hon. Mae’r tocynnau yn £20 yr un a gellir archebu pecynnau arbennig gan y Brifysgol hefyd i gael swper cyn y gyngerdd, ac mae modd aros ar y campws.