Cyngerdd Codi Arian At Ymchwil Y Cancr Eglwys San Pedr, Llanybydder

Trefnwyd yr achlysur gan Gangen Cancr DU Llanbedr Pont Steffan a Llanybydder

Eglwys Llanybydder
gan Eglwys Llanybydder

Cynhaliwyd cyngerdd o’r radd flaenaf ar Nos Wener 25ain Tachwedd 2022 yn Eglwys Llanybydder, er budd Ymchwil Cancr y Deyrnas Unedig.  Trefnwyd yr achlysur gan Gangen Llanbedr Pont Steffan a Llanybydder Cancr DU. Cydlynydd y digwyddiad oedd y Cyn-gynghorydd Sirol Ieuan Davies neu Ieuan, Golden Scissors, fel y mae’n adnabyddus i lawer.

Artistiaid y noson oedd Côr Cwmann a’r Cylch, Catrin Davies (Der i Dorri ac Aberaeron) a Lowri Elen, Llanbedr Pont Steffan.

Roedd nifer o aelodau’r Côr yn absennol oherwydd salwch ond serch hynny roedd y gerddoriaeth yn drawiadol a Mr Kees Huysmans yn cyflwyno eitemau’r Côr mewn modd bywiog a llawn hiwmor.

Derbyniwyd gwledd o gerddoriaeth a swynwyd y gynulleidfa wrth wrando ar yr holl artistiaid a chaneuon i gynnwys, ond ychydig, Safwn yn y Bwlch, Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd, Anfonaf Angel, a chân Nadoligaidd i’r dôn “I don’t know how to love him o’r Sioe Jesus Christ Superstar” o dan arweiniad medrus Mrs Elonwy Davies a Mrs Elonwy Huysmans. Diolch hefyd i Eirian a Meinir o Gwmann.

Roedd araith hwyliog a diddorol Llywydd y Noson, sef Mrs Gwenllian Thomas, Cnwc, Tŷ Mawr, Llanybydder, (gynt o Tancoedcochion) yn hawlio sylw’r gynulleidfa. Siaradodd am ymestyn allan i helpu eraill ac am ei phrofiad hi o gynorthwyo person digartref tu allan i archfarchnad yn Llandeilo wrth iddo chwarae’r dôn Pink Panther. Yn ogystal, derbyniwyd rhodd hael gan Gwenllian ar gyfer Ymchwil y Cancr DU.

Diolchwyd hefyd i Heather, Warden yr Eglwys a’i phriod Mr Gareth Jones am baratoi a thacluso’r Eglwys cyn y gyngerdd. Roedd yr Eglwys yn edrych ar ei gorau a’r canhwyllau a’r addurniadau’n ychwanegu at naws Nadoligaidd a hudol y noson.

Gall cancr effeithio ar unrhyw berson ar unrhyw adeg; y mae pawb yn adnabod rhywun sy’n dioddef/ wedi dioddef o’r clefyd.  Diolch i ymchwil parhaol a diagnosis cynnar mae llawer yn ei oresgyn. Boed i hyn barhau!

Os lwyddodd y Gyngerdd gyfrannu ond un diferyn tuag at Ymchwil y Cancr, ni fu unrhyw ymdrech yn ofer.

Diolch i bawb a fynychodd ac a helpodd mewn unrhyw ffordd. Y mae wedi’i werthfawrogi’n enfawr.

Casglwyd y swm anrhydeddus o £1,300 ( a mwy i ddod yn ôl Ieuan)