
Criw Brynhafod

Owain a Ffion yn chwarae gyda’r wyau

Coronau Pasg Trefor a Leisa

Pawb yn chwilio am wyau Pasg

Basged o wyau

Helfa wyau Pasg

Plannu blodau haul.

Martha Llain yn helpu Sara i blannu hadau

Ffion a’i basged hardd

Paned a rhoi’r byd yn ei le.

Pawb yn barod am yr helfa!

Sara a Bethan yn lliwio coron yr un.

Pawb yn brysur

Mair, Enfys a Moc yn joio paned a chlonc.

Pawb rownd bwrdd yn brysur.
Daeth aelodau a phlant yr Ysgol Sul ynghyd ar Sul y Pasg i ddathlu gyda’n gilydd yn Festri Capel Brynhafod.
Cafwyd gwasanaeth bach lle dysgwyd am atgyfodiad Iesu, cymundeb ac uchafbwynt y prynhawn, heb os, oedd yr helfa wyau Pasg ar Hewl Hafod.
Cuddiodd Mair dros 40 o wyau i’r plant, ac roedd cyffro mawr wrth iddyn nhw ddarganfod wyau bach lliwgar ym mhob twll a chornel ar y cloddiau ar yr hewl fach sydd wrth ymyl y Capel.
Rhaid oedd cael paned a bynen grog (hot cross bun) ar ôl cyrraedd nôl wrth gwrs a buodd y plant yn brysur yn plannu hadau blodau haul i gofio am blant Iwcrain, addurno basgedi bach a choronau’r Pasg.
Dathlwyd y Pasg mewn modd cymunedol, hwylus yng Ngorsgoch.