Dathlu dau

Llanwnnen yn llongyfarch Catrin a Twm

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies
IMG_7838

Twm Ebbsworth a Catrin Jones

Roedd yna noson o lawenhau yn Llanwnnen nos Iau wrth i bobl leol ddathlu bod dwy o brif wobrau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd wedi dod i’r pentre’.

Fe ddarllenodd Twm Ebbsworth ddarn o un o’r straeon byrion a enillodd y Goron iddo ac roedd yna arddangosfa o luniau Catrin Jones, enillydd Prif Ysgoloriaeth Gelf yr Eisteddfod.

“Roedd hi’n rhyfeddod bod dwy wobr fawr o’r fath wedi dod i bentre’ mor fach,” meddai arweinydd y noson, Dylan Iorwerth. “Go brin fod y fath beth wedi digwydd erioed o’r blaen.”

Yn ogystal â’u llwyddiant eu hunain, meddai, roedd Catrin a Twm yn cynrychioli holl lwyddiannau a chyfraniadau pobl ifanc yr ardal.

Fe gafodd pawb flas ar yr hiwmor tywyll oedd wedi ennill y Goron i Twm, gyda stori am ddyn ifanc yn ymdopi â cholli ei gariad  a darn o stori a enillodd Goron yr Eisteddfod Ryng-golegol, am ddyn ifanc mewn ardal wledig yn gorfod byw yn ei 4×4 oherwydd y mewnlifiad a diffyg tai.

Roedd beirniaid Eisteddfod yr Urdd wedi canmol Twm am fod yn “llenor aeddfed a chrefftus” a oedd wedi eu harwain ar daith “wallgof a gwahanol”. Roedd y gwaith, medden nhw, “yn llawn hiwmor tywyll a swreal a apeliodd yn fawr at y ddwy ohonom o’r darlleniad cyntaf.”

Mae Twm yn gweithio ar radd bellach mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth – roedd cael cyfle i ganolbwyntio’n llwyr ar sgrifennu wedi bod yn brofiad gwerthfawr, meddai.

Fe eglurodd Catrin sut yr oedd ei lluniau pwerus yn codi o’i diddordeb mewn hawliau menywod a iechyd meddwl a sut yr oedd hi wedi defnyddio cyfnod y Covid i ddatblygu ei gwaith.

Dyma oedd beirniaid yr Eisteddfod wedi ei ddweud amdani: “Roedd gwaith yr enillydd yn gwbl drawiadol – fe wnaeth ein denu i mewn gan greu elfen o sioc a syndod – roedd yn gwneud i ni deimlo’n anghyfforddus.”

Mae Catrin newydd orffen ei Lefel A yn Ysgol Bro Pedr ac fe fydd yn mynd yn ei blaen i wneud Cwrs Sylfaen yng Nghaerfyrddin.

Dylan Iorwerth