Ddim wedi cwrdd â fy nghydweithwyr er i fi weithio gyda nhw ers blwyddyn a hanner

Llion Herbert o Gwmann sy’n ateb cwestiynau Cadwyn y Cyfrinachau ym Mhapur Bro Clonc

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
8FADC76B-E21C-4F3F-A03E

Cynorthwyydd Gweinyddol gyda Thîm Dysgu a Datblygu Cyngor Sir Ceredigion yw Llion Herbert.  Wrth ateb cwestiwn ynglyn â sut mae’r Coronafeirws wedi effeithio arno, dywedodd “Ddim wedi cwrdd â fy nghydweithwyr er fy mod wedi gweithio gyda nhw ers blwyddyn a hanner” ac mae hynny oherwydd ei fod wedi gweithio o’i gartref ers iddo gael ei benodi i’r swydd.

Wrth ateb cwestiynau Cadwyn y Cyfrinachau yn rhifyn Mehefin Papur Bro Clonc, dysgwn lawer am y pêl-droediwr ifanc o Gwmann.

Yr eiliad o’r embaras mwyaf.

Cael fy sybio arno a’r ref yn chwythu (gan ei bod hi’n llawn amser) cyn gyntad ag y gwnes i roi un troed ar y cae.

Pa mor aml wyt ti’n gweddïo?

Cyn pob gêm Dewi Stars a Man Utd.

Arferion gwael?

Wastad yn anghofio prynu pethau mae Mam eisiau o’r siop.

Er mwyn darganfod mwy amdano, cofiwch brynu Clonc o’r siopau lleol, neu beth am danysgrifio’n ddigidol ar wefan Clonc?