Ail ddiwrnod yr Eisteddfod Genedlaethol

O’r Oedfa i’r Gymanfa – Uchafbwyntiau’r dydd o Dregaron.

gan Ifan Meredith
EFB2FDB2-3817-40D3-81E4

Yn wlyb ar Faes yr Eisteddfod peth cyntaf, ond yn agor yn ddigon braf, felly mae welis yn rhywbeth i’w hystyried os ydych am grwydro i’r maes.
Os ydych chi’n mynd i’r Eisteddfod, ychwanegwch luniau plîs.

19:02

223CBF5F-AE0C-4C3B-8E45

Yr Hybarch Eileen Davies yn rhoi’r weddi ar ddechrau’r Gymanfa. 

18:59

Côr yr Eisteddfod a’r gynulleidfa yn barod i’r Gymanfa.

18:54

Côr y Gymanfa a Delyth Hopkins Evans yn barod ar gyfer y Gymanfa sydd ar awyr am 19:00 ar S4C. 

16:30

Welsh Whisperer yn perfformio ar Lwyfan y Maes.

16:17

Gwenan Gibbard yn perfformio yn y Tŷ Gwerin.

15:51

Ela Mablen Griffiths Jones o Gwrtnewydd wedi mynd trwyddo i’r llwyfan yng nghystadleuaeth yr unawd i ferched 12-16 oed. Y gystadleuaeth ymlaen yn y pafiliwn fory am 13:00. 

15:22

Côr Cymysg Tregaron yn cystadlu yn y Côr Adloniant.

14:38

Vernon Maher o Drefach Felindre yn cloi cystadleuaeth Canu Emyn dros 60 oed gyda Rhiannon Pritchard yn cyfeilio. 

14:12

Stifyn Parri yn holi Gillian Elisa yn Theatr y Maes.

13:57

Beirniaid Unawd Merched 12-16 oed – Mari Ffion a Fflur Wyn. 27 o ferched wedi bod yn cystadlu.