Digwyddiadau Di-ri Menter Gorllewin Sir Gâr

70 wedi mynychu’r ddau Glwb Cinio a dyddiadau nesaf y clwb yng Nghmwann fydd 14/12/22 a 11/01/23.

Gwawr Williams
gan Gwawr Williams

Sesiynau stori:

Rydym eisoes wedi ail-gychwyn sesiynau stori mewn tair ardal sef Caerfyrddin ar ddydd Llun yng Nghanolfan Chwarae Sgiliau am 10:30am. Yn Maesycrugiau/Llanllwni ar ddydd Mawrth yn Neuadd Gymunedol Eglwys Llanllwni am 10:30am. Yn San Clêr ar ddydd Mercher yn Y Gât am 1:30pm. Ymunwch â ni yn y sesiynau stori wythnosol yma. Cysylltwch gyda gwawr@mgsg.cymru i gofrestru.

Clybiau Cinio:

Yn dilyn llwyddiant mewn cais i gyllido prosiect mae’r Fenter yn trefnu cyfres o Glybiau Cinio yn Llanboidy a Chwmann. Bu’r digwyddiadau  yn llwyddiannus iawn, gyda dros 70 o ddinasyddion hŷn wedi mynychu yn y ddau leoliad ar y 8/11/22 a 9/11/22. Y tro yma, pei a chrymbl oedd y bwyd blasus. Y dyddiadau nesaf ar gyfer clwb yn Llanboidy fydd, 13/12/22 a 10/01/23 ac yng Nghmwann ar 14/12/22 a 11/01/23. Am fwy o wybodaeth, am Llanboidy, cysylltwch gyda Betsan: betsan@mgsg.cymru a Chwmann gyda Luned: luned@mgsg.cymru neu drwy ffonio 01239 712934.

Coffi a Chlonc:

Mae’r sesiynau yma sydd wedi cael eu cynnal ers cychwyn y cyfnod clo yn parhau. Dyma gyfle i ddod ynghyd i sgwrsio a chymdeithasu dros baned bob bore dydd Iau am 10.30yb ar Zoom. Mae’r weithgaredd yma yn addas ar gyfer dysgwyr neu siaradwyr rhugl. I dderbyn y linc cysylltwch gyda ymholiad@mgsg.cymru.

Paned a Sgwrs:

Mae’r Fenter yn parhau gyda’r sesiynau Paned a Sgwrs yng Nghaffi’r Atom, pob ddydd Mawrth o 10-11yb. Mae’n gyfle da i sgwrsio a chymdeithasu dros baned a chroeso i siaradwyr newydd a siaradwyr rhugl i ymuno. I gofrestru, cysylltwch gyda alma@mgsg.cymru.

Clybiau Drama:

Mae’r Fenter a Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnig dau glwb drama i blant yr ardal, Clwb Joio Drama ar gyfer blynyddoedd 1-3 ar nos Fercher o 5-5.45pm ac i flynyddoedd 4-6 o 6-7pm. Mae’r clybiau yn cael eu cynnal yn y Stiwdio, Theatr y Lyric, Caerfyrddin. Mae’n gyfle i blant ddysgu sgiliau, magu hyder a mwynhau. I gofrestru, cysylltwch gydag alma@mgsg.cymru. Diolch i Theatrau Sir Gâr am y croeso cynnes i’r theatr yn wythnosol.

Adweitheg Babi:

Cynhelir cyfres o ddosbarthiadau Adweitheg Babi yng ngofal Meleri Brown o Hafan Holistaidd yn Neuadd Gymunedol Ysgol Peniel yn ddiweddar. Diolchwn yn fawr i Meleri am y sesiynau yma, ac edrychwn ymlaen i gydweithio ar sesiynau tebyg yn y dyfodol.

Clwb Garddio:

Mae’r Fenter yn cydweithio gyda Cered – Menter Iaith Ceredigion i drefnu Clwb Garddio yn Yr Ardd, Pont Tyweli. Pob ail ddydd Sadwrn y mis o 11yb-1yp. Cyfle i blannu a thyfu llysiau, ffrwythau a blodau. Croeso i bawb; oedolion a theuluoedd (angen oedolyn yn bresennol gyda phlant a phobl ifanc o dan 18 oed). I gofrestru: llinos.hallgarth@ceredigion.gov.uk neu ymholiad@mgsg.cymru

Paned a phapur:

Mae’r Fenter wedi bod yn parhau gyda’r sesiynau Paned a Phapur yn Amgueddfa Wlân, Drefach Felindre. Mi fydd yr un nesaf ar y 23ain o Dachwedd am 12pm, ac yna bob pythefnos. Cyfle i sgwrsio a chymdeithasu dros baned. Croeso i siaradwyr newydd a siaradwyr rhugl. I gofrestru, cysylltwch gyda luned@mgsg.cymru.

Clybiau Darllen:

Yn dychwelyd mae clybiau darllen y Fenter sy’n cwrdd unwaith y mis ar Zoom. Mae clwb darllen i oedolion yn cwrdd bob ail nos Fawrth y mis am 7yh a chlwb darllen i ddysgwyr yn cwrdd ar y trydydd nos Fawrth y mis am 7yh. Dyma gyfle i ddod ynghyd i gymdeithasu a thrafod nofelau cyfoes. Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru cysylltwch gyda nia@mgsg.cymru | betsan@mgsg.cymru

Parti Calan Gaeaf:

Bu’r Atom a’r Fenter yn cynnal Parti Calan Gaeaf yn Yr Atom ar y 31ain o Hydref rhwng 10am-12pm. Gwnaeth y bore gynnwys sesiynau chwarae anniben, gemau, crefftau, amser stori a chystadleuaeth gwisg ffansi. Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth fynychu’r bore.

Un Noson Ola Leuad:

Gwnaeth Un Noson Ola Leuad gan Theatr Bara Caws ddod i Gaerfyrddin ar yr 2il o Dachwedd yn Neuadd San Pedr am 7:30pm. Bu hi’n noson wych, a hyfryd oedd gweld dros 150 o bobl yn y gynulleidfa yn llenwi’r theatr. Roedd yn sioe unigryw iawn ac fe wnaeth bawb fwynhau.

*Newydd* Yoga

Am gyfnod o 6 wythnos mi fydd Menter Gorllewin Sir Gâr yn cynnal sesiynau yoga ar Ddydd Mercher 11.1.23, o 1:15- 2:15pm yn Festri Capel y Priordy, Caerfyrddin. Am gyfnod o 6 wythnos, cost y sesiynau fydd £39. Mi fydd y sesiwn yn cynnwys symudiadau yoga, gweithio gyda’r anadl, ymlacio a myfyrio. I gofrestru, cysylltwch gydag alma@mgsg.cymru.

Hefyd, mi fydd sesiwn yoga am 6 wythnos yn dechrau ar Nos Iau y 12.1.23 am 7pm-8pm yn yr Atom yng Nghaerfyrddin am £39. Cysylltwch gydag alma@mgsg.cymru i gofrestru.

*Newydd* Sesiwn Ffitrwydd

Ar y 12.1.23 yn Studio 17 yn Hendygwyn, mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn cynnal Sesiwn Ffitrwydd am 6:45-7:30 yh. Am gyfnod o 6 wythnos mi fydd y sesiynau’n rhedeg, a £30 fydd y tâl. I gofrestru neu unrhyw wybodaeth pellach, cysylltwch â betsan@mgsg.cymru.

Cyfryngau Cymdeithasol:

Am y diweddaraf, ewch i’n cyfryngau cymdeithasol:

Facebook – Menter Gorllewin Sir Gar

Trydar – @MenterGSG

Instagram – @MenterGSG

E-bost – ymholiad@mgsg.cymru  neu am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y platfformau yma cysylltwch â ni ar y ffôn: 01239 712934.