Fyddwch chi’n mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol heddiw? Ychwanegwch eich lluniau yma plis.
Amser cinio – cefnogi cwmni lleol – Mair a Tony Hatcher, Abernant.
Os ydych am weld holl ddigwyddiadau’r wythnos. Mi allwch brynu rhaglen yr Wythnos o’r Hwb Gwybodaeth am £10. Ychydig iawn sydd ar ôl.
Os ydych yn dod i’r Maes – bydd angen MAP o’r Maes arnoch. Rhain ar gael yn y Brif Fynedfa neu yn yr Hwb Gwybodaeth.
Y drymiau yn barod ar gyfer cyflwyniad o hanes Undodiaid y Smotyn Du. Dewch draw i babell y Cymdeithasau 2 erbyn 12:30!
Dylan a’r panel yn barod i drafod a ydy papurau a gwefannau bro yn cystadlu neu’n cryfhau? Dewch draw i stondin Golwg i wrando ar y sgwrs ddiddorol yma!
Mae’r Babell Lên 2022 yn sicr ar agor’.
Merched ysgolion uwchradd Ceredigion dan arweiniad y bardd Casi Wyn yn perfformio yn y Babell Lên.
Beth yw’r Babell Lên?
‘Pabell i bawb syn caru eu geirie’
yn ôl disgyblion Ysgol Henry Richard.
Dim ots os daw y glaw a’r mwd
Dewch mewn, mae’r lle ma’n gwd.
Newydd glywed perfformiad gan ddisgyblion Henry Richard sy’n dweud y cyfan am yr eisteddfod yng Ngheredigion. Perfformiad gwych dan arweiniad Enfys Hatcher.
Y Babell Lên yn llawn ar gyfer ei hagoriad swyddogol.