Y Drindod Dewi Sant i gynnal ei Ffair Nadolig yn Llambed

Y Drindod Dewi Sant yn cynnal Ffair Nadolig flynyddol y Dref a’r Brifysgol ar gampws Llambed.

gan Lowri Thomas

Ddydd Sadwrn, Rhagfyr 10fed, bydd crefftwyr, cynhyrchwyr bwyd ac artistiaid o bob cwr o orllewin Cymru yn dod i’r Hen Neuadd ac Adeilad Lloyd Thomas yn Llambed i werthu eu cynnyrch yn yr ŵyl.

Mae’r digwyddiad yn agored i’r gymuned gyfan gyda Siôn Corn yn gwneud ymddangosiad arbennig ar gyfer y plant.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y Ffair Nadolig eleni – mae’n addo bod yn ddigwyddiad cymunedol arbennig unwaith eto,” meddai Gwilym Dyfri Jones, Profost Campws Llambed.

“Bellach mae Ffair Nadolig Llambed wedi ennill ei phlwyf yng nghalendr y Brifysgol ac mae’n gyfle ardderchog i ddod â staff a myfyrwyr yn ogystal â channoedd o ymwelwyr o’r ardal leol at ei gilydd. Mae hefyd yn gyfle gwych i fwynhau awyrgylch Nadoligaidd hyfryd ac i gefnogi cynhyrchwyr a chrefftwyr lleol. Mae bob amser yn werth cofio y gall penderfyniadau bychain wrth brynu eich nwyddau gael effaith fawr ar ein cymuned leol; mae punt sy’n cael ei gwario yn lleol yn mynd ymhellach o lawer nag un a werir mewn archfarchnad neu mewn siop gadwyn ar y stryd fawr.”

Yn ystod y digwyddiad, bydd Côr Cwmann, Côr Bytholwyrdd, Côr Cynradd Ysgol Bro Pedr a Chôr St Vincent  yn difyrru’r ymwelwyr a bydd hefyd cyfle i godi arian ar gyfer banc bwyd y dref trwy gymryd rhan yn y raffl.  Os ydych chi’n gynhyrchydd lleol sydd â diddordeb mewn archebu stondin yn y ffair, cysylltwch â hazel.thomas@uwtsd.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.