Cyfweliad fideo â’r bêl-droedwraig sydd ar fin cynrychioli Cymru am yr eildro.

Ymhen wythnosau, bydd Casi Gregson yn edrych ar gynrychioli ei gwlad am yr eildro wrth chwarae i dîm merched Cymru o dan 16.

gan Ifan Meredith

Wedi iddi fod yn chwaraewraig frwd i dimoedd Llanbed a De Cymru dros y blynyddoedd mae Casi Gregson wedi cyrraedd yr uchafbwynt o gynrychioli Cymru.

Mi fydd hi’n mynychu’r gwersyll hyfforddi yng Nghasnewydd ar Fawrth y cyntaf ac yno am dri niwrnod. Mae Casi yn byw yn Llanbed ac yn ddisgybl yn Ysgol Bro Pedr. Pob lwc iddi.

Dyma glip o gyfweliad gyda Casi i ddysgu mwy am ei phrofiadau a chip-olwg i fywyd yng ngharfan Cymru.