Sul y ’Steddfod

Yng nghanol penwythnos Eisteddfod Rhys Thomas James Llanbedr Pont Steffan, daeth pobl ynghŷd i’r gwasanaeth Undebol yng Nghapel Noddfa ac yna gwledd o ganu yng nghystadleuaeth ‘Llais Llwyfan Llanbed’.

gan Ifan Meredith
Rhiannon Lewis

Yn ystod y gwasanaeth fore Sul, croesawodd y Parch. Densil Morgan y gynulleidfa a chyflwyno’r pregethwr gwadd, y Parch. Peter Thomas.

Y Parch. Densil Morgan

Y Parch. Peter Thomas


Elan Jones

Yna, am 7 yr hwyr, daeth 5 i gystadlu yng nghystadleuaeth ‘Llais Llwyfan Llanbed’ yn Hen Neuadd y Brifysgol.

Y dasg oedd i baratoi rhaglen amrywiol heb fod hwy nag 20 munud a oedd yn cynnwys un gân gan gyfansoddwr Cymreig i’w chanu yn y Gymraeg. Arweinydd y noson oedd Rhiannon Lewis a’r cyfeilydd oedd Rhiannon Pritchard.

Llinos Haf Jones o Benarth oedd yn fuddugol ac yn derbyn tlws yn rhoddedig gan Emlyn Davies a’r teulu, er cof am Elwyn ac Ina Davies.

Yn ail, roedd Ffion Mair Thomas a dderbyniodd £1,000 yn rhoddedig gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Yn derbyn £500 yn rhoddedig gan Gyngor Sir Ceredigion am ddod yn drydydd oedd Sara Davies yn enedigol o Hen Golwyn ond bellach yn byw ym Mhren-gwyn.

Roedd Lois Wyn o Rydymain yn bedwerydd a derbyniodd £250 yn rhoddedig gan Gyngor Tref Llanbed.


Roedd pumed wobr hefyd o £125 i Gwennan Mars Lloyd.

“Cyngerdd o gystadlu ond siomedig o’r niferoedd” – Robyn Lyn Evans.

Seremoni arall yn ystod y noson oedd cyhoeddi’r emyn dôn fuddugol i’r geiriau “Am Heddwch Byd” gan John Meurig Edwards. Yn fuddugol oedd y dôn “Llangrannog” gan Dr Godfree Williams neu yn ôl ei enw barddol, Pen Cerdd Dyfrdwy, o Bontgysyllte ac enillodd gystadleuaeth cyfansoddi emyn dôn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ddechrau’r mis.


Llywydd y noson oedd Gwilym Dyfri Jones, Profost campysau Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin a Llanbed.

“Edrych ymlaen at gydweithio gyda’r Eisteddfod yn ariannol ac yn ymarferol” – Gwilym Dyfri Jones.

Yn ôl y traddodiad, daeth y noson i ben wrth i bawb ganu’r emyn cyntaf i ennill y gystadleuaeth uchod sef Pantyfedwen.

Cafwyd diwrnod hwylus ac edrychir ymlaen at ddiwrnod arall o gystadlu brwd o 11:15 yn Neuadd Celfyddydau y Brifysgol heddiw.