Dewch yn llu i Dregaron ar ddiwrnod y Coroni.
Dylan Lewis, Cadeirydd Clonc yn cael ei Urddo.
Y Wisg Werdd
Wynebau cyfarwydd yn cael eu hurddo!
On’d yw hi’n braf bod nôl ym mwrlwm yr Eisteddfod Genedlaethol? Yn bendant, mae’n ddigwyddiad allweddol i nifer ohonon ni’r Cymry. Cynhelir dwy seremoni urddo ar faes yr Eisteddfod yn ystod yr wythnos a bore ’ma oedd y gyntaf. Dyma gyfle i groesawu aelodau newydd i’r Orsedd ac yn wir, roedd nifer o’r wynebau heddiw yn gyfarwydd iawn i ni yn ardal Llambed. Yn eu mysg, roedd Dylan Lewis, cadeirydd Papur Bro Clonc ac Einir Ryder sy’n gyfrifol am Gornel y Plant yn y papur. Fe’u hurddwyd ar gyfrif eu gradd ac ry’n ni’n llongyfarch y ddau ohonynt. Mae’n siŵr eich bod wedi adnabod sawl wyneb cyfarwydd arall yn y lluniau a hoffem eu llongyfarch hwythau hefyd. Edrychwn ymlaen yn awr at eich gweld ar y llwyfan prynhawn yma yn seremoni’r Coroni.
Elliw Dafydd – Cyflwyno’r Corn Hirlas
Canu emyn
Seremoni’r Urddo ar fore Llun.
Llongyfarchiadau i bawb.
Maen Llog.
Canlyniadau’r ardal o ddoe:
Llefaru o’r ysgrythur dan 16 oed- Trystan Bryn, Pumsaint yn drydydd.
Dawns greadigol/gyfoes Unigol- Llanbed yn cael ‘Clean-sweep’ wrth i Elin Lloyd ddod yn gyntaf, Amy Morgan yn ail ac Alisha Teasdale yn drydydd.
Cylch yr Orsedd yn barod.
Ysgol Henry Richard yn diddanu ym Mhabell Ceredigion.
Cylch yr Orsedd yn barod ar gyfer y Seremoni Urddo yn hwyrach heddiw.