Dydd Mawrth y Steddfod

Y diweddaraf o faes yr Eisteddfod ar ddiwrnod gwobr Goffa Daniel Owen

gan Ifan Meredith
034D31A2-2841-4D87-A530

Ydych chi am fentro i faes yr Eisteddfod? Os ydych, ychwanegwch luniau, fideos neu ysgrifen i’r blog byw yma plîs.

19:28

41261B49-017E-410D-9111

Wrth i’r Eisteddfod ddod i ben am ddiwrnod arall, mae’r sylw yn troi at y gyngerdd nos heno, Cabarella ac i Faes B sy’n dechrau heno am 9!

18:42

Seremoni Cadeirio Capel y Groes pnawn ma ar stondin yr Undodiaid.

17:49

Wrth fy modd gyda pherfformiad Mellt yng Nghaffi Maes B.  Byddan nhw’n perfformio eto ar Lwyfan y Maes am 19.20.

17:35

Perfformiad gwych gan Gôr Bytholwyrdd heddiw yn y Pafiliwn dan arweiniad Rhiannon Lewis gyda Lois Williams yn cyfeilio.

17:06

Huw Evans, Alltgoch yn ennill cystadleuaeth y soned. Cafodd ei wobrwyo yn y Babell Lên pnawn ma. ‘Hud’ oedd y testun.

16:03

Côr Hen Nodiant o Gaerdydd yn 1af

Côr Encore, Sir Fôn yn 2il

Côr Nefi Blw o Gaerdydd  yn 3ydd 

Dim lwc i Bytholwyrdd heddi. Tro nesa’. 

15:54

Iestyn Evans yn traddodi’r feirniadaeth y Côr 60+. 

15:28

Meinir Pierce Jones o Morfa Nefyn yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen. 

15:11

00E1E621-6DB3-463F-9549

Côr Bytholwyrdd yn cystadlu prynhawn ma mewn cystadleuaeth o bedwar côr i rai 60 oed a thosodd.

15:06

Côr Blwyddyn 5 a 6 Ysgolion Ceredigion yn barod i ganu yn Seremoni Daniel Owen.