Dydd Mawrth y Steddfod

Y diweddaraf o faes yr Eisteddfod ar ddiwrnod gwobr Goffa Daniel Owen

gan Ifan Meredith
034D31A2-2841-4D87-A530

Ydych chi am fentro i faes yr Eisteddfod? Os ydych, ychwanegwch luniau, fideos neu ysgrifen i’r blog byw yma plîs.

13:20

Cyfweliad gyda ennillydd Cadair Capel y Groes, Elen Morgan.

13:13

Elen Morgan a Mererid Hopwood.

12:50

Elen Morgan, Drefach, Llanybydder yn ennill cadair Eisteddfod Capel y Groes ym Mhabell yr Undodiaid heddiw.

Ei ffugenw oedd Ar chwal ac ysgrifennodd stori am Tim Jones y Crudd.  Y beirniad oedd Mererid Hopwood ac arweiniwyd y seremoni gan Manon Lowtre.

12:13

Pabell yr Undodiaid yn barod ar gyfer seremoni Cadeirio Eisteddfod Capel y Groes!

11:41

Côr Bytholwyrdd yn ymarfer ar gyfer y gystadleuaeth Côr 60+. Pob lwc i chi. 
Rhiannon yn arwain a Lois yn cyfeilio. 

11:33

Aelodau Cardi-Gân a Meibion y Mynydd yn ymarfer ym Mhabell Prifysgol Drindod Dewi Sant cyn perfformio ar Lwyfan y Maes am 11.