Dydd Mercher o’r Steddfod

Holl fwrlwm y maes yn fyw ar y blog byw yma!

gan Ifan Meredith

Bore addawol heddi wedi galw dros nos.

Ydych chi’n dod i’r Steddfod heddi? Ychwanegwch eich llunie a’ch fideos i’r blog byw yma plîs.

17:32

Goleuadau ffôn yn goleuo awyr Tregaron wrth i Candelas ganu ar Lwyfan y Maes.

16:51

Mesen, neu Sioned Erin Hughes o Lŷn yw enillydd y Fedal Ryddiaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022. Daeth 17 ymgais i law.

Y beirniaid ar gyfer y gystadleuaeth hon oedd Meg Elis, Dylan Iorwerth ac Eurig Salisbury.

Gofynion y gystadleuaeth oedd i ysgrifennu cyfrol o ryddiaeth greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau dan y testun, Dianc.

Traddododd Meg Elis y feirniadaeth gan gyfeirio at bod y tri yn cytuno am y tri a ddaw i’r brig.

Er bod teilyngdod, cafwyd ambell feirniadaeth damiol wrth fod ‘dim arwydd o arbenigedd’ gan rai o’r ymgeiswyr.

16:35

Dechrau ar seremoni’r Fedal Ryddiaeth- a fydd teilyngdod?

16:04

Ysgol Gerdd Ceredigion, Gorllewin Sir Gâr a Gogledd Sir Benfro yn ennill y cystadleuaeth Côr Ieuenctid o dan 25 oed.

15:52

Jo Healy yw Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022.

Neges a chanmoliaeth i’r cyfryngau yn y seremoni hefyd:

Parhewch i ddefnyddio’r pedwar sydd wedi dod i’r brig.

11:24

Tomos Bwlch ac Ifan Jones-Evans wedi cyrraedd stondin FUW!

11:08

Disgyblion Ysgol Bro Pedr yn diddanu ar Lwyfan Ni ger Pabell Ceredigion ar y Maes.

11:01

Carys Griffiths-Jones, Cwrtnewydd a Dafydd Jones, Ciliau Aeron yn cystadlu yn y Ddeuawd Cerdd Dant dros 21 oed. 

10:28

Arddangosfeydd Cynefin y Cardi yn ardal Ceredigion ar Faes yr Eisteddfod.

10:19

Hei! Ti’n cŵl, ti’n ffrind i mi!

Tro côr cynradd Bro Pedr i ddiddanu!