Dyffryn Cledlyn yn ennill y Cam Aur

Mae dathlu mawr yn Ysgol Gynradd Dyffryn Cledlyn wrth iddynt lwyddo i ennill Cam Aur y Siarter Iaith.

gan Siwan Richards

Dyffryn Cledlyn yw’r ail ysgol yng Ngheredigion i gyrraedd y safon hwn. Gwelwyd gwaith arbennig a thystiolaeth gadarn o’r Gymraeg yn fyw o fewn cymuned yr Ysgol.

Dywedodd Anwen Eleri, Swyddog Cefnogi’r Gymraeg mewn Addysg: “Pleser oedd gweld y disgyblion yn cymryd perchnogaeth o waith y Siarter yn yr ysgol; roedd eu brwdfrydedd yn heintus. Braint oedd cael gwrando ar gyflwyniadau y disgyblion a gweld ffrwyth llafur a llwyddiant eu prosiectau. Roedd cael ymuno â’r clwb iwcaleli tra yn ymweld yn binacl hefyd.”

Arweinir y gwaith gan Mari ac Ethan y Dreigiau Cymraeg â’r Cyngor Ysgol.

Ychwanegodd Mr Hywel Roderick, athro a chydlynydd y siarter, a fu’n cefnogi’r criw: “Rydym wrth ein boddau! Mae’r criw yn weithgar ac yn awyddus iawn ac yn cymryd eu rôl o ddifrif. Mae’r Siarter Iaith ar waith drwy’r Ysgol gyfan a phob un aelod o staff a disgybl yn rhan o’r llwyddiant hwn – ymfalchiwn yn y cydweithio arbennig.”

Mae’r Siarter iaith ar waith yn holl ysgolion cynradd y sir ac yn datblygu yn y sector uwchradd. Mae pawb ar y siwrne ac mae yna waith arbennig yn digwydd ar hyd a lled y Sir.

Llongyfarchiadau mawr i chi gyd yn Ysgol Gynradd Dyffryn Cledlyn.