Eglwysi Plwyf Pencarreg yn cefnogi Wythnos Cymorth Cristnogol

Bore Coffi llwyddiannus yng Nghanolfan Cwmann

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones

Lluniau gan Rhys Jones a Rhiannon Lewis.

Hyfryd oedd gweld Canolfan Cwmann dan ei sang fore Llun 16 Mai. Daeth tyrfa o bell ac agos yno i gymdeithasu a chloncian tros baned o goffi neu de a blasu’r dewis di-ben-draw o gacennau.

Trefnwyd stondin gacennau a gwerthwyd y cyfan ohonynt. Trefnwyd raffl a’r gwobrau ddim yn ddau neu dri ond dros ugain mewn nifer ac yn werth eu hennill. Bu sawl un yn crafu pen wrth geisio dyfalu pwysau’r gacen ac mae bellach wedi cyrraedd cartref yr enillydd.

Agorwyd y Bore Coffi gyda gair o groeso a gweddi gan y Parchedig Carys Hamilton, Ficer Plwyf Pencarreg sy’n cynnwys Eglwysi Pencarreg, Cwmann, Llanycrwys, Cellan a Llanfair Clydogau.

Twynog Davies, Cadeirydd Pwyllgor Cymorth Cristnogol Llanbedr Pont Steffan a’r Cylch gyflwynodd y diolchiadau. Diolchodd i’r trefnwyr am ddigwyddiad mor llwyddiannus; i bawb fu’n coginio’r holl gacennau, yn gweini’r danteithion a chyfrannu’r gwobrau raffl; ac i bawb wnaeth gefnogi Cymorth Cristnogol.

Cofiwch am y ‘Brecwast Mawr’ bore Mercher 18 Mai rhwng 7.30 a 12.00 yn Festri Brondeifi er budd Cymorth Cristnogol. Os hoffech daith gerdded hamddenol yn nhref Llanbed cyn dod am ‘Frecwast Mawr’, ymunwch yn nhaith gerdded Eglwys Sant Tomos bore Mercher. Mae’r daith yn cychwyn ym maes parcio’r Coop am 9.00 o’r gloch – gwisgwch esgidiau cyfforddus a chot addas i’ch cadw’n sych pe byddai’n glawio.

Trefnir taith gerdded arall gan Gapel Bethel, Silian ddydd Sul 29 Mai yn rhan o weithgareddau Cylch Bedyddwyr Gogledd Teifi er budd Cymorth Cristnogol. Mae Undodiaid Dyffryn Aeron a’r Teifi hefyd yn trefnu taith gerdded i gefnogi Cymorth Cristnogol.  Bydd yr holl deithiau o gymorth i’r rhai sy’n cymryd rhan yn ‘Her 300,000 o gamau’ Cymorth Cristnogol i gyrraedd y nòd hwnnw erbyn diwedd Mai.

Os dymunwch gyfrannu at ymgyrch codi arian Pwyllgor Llanbed a’r Cylch trwy’r we, mae ganddynt dudalen ar wefan GiveStar i dderbyn eich rhoddion.

Diolch yn fawr iawn i bawb am drefnu’r holl weithgareddau ac am eich rhoddion caredig a hael yn cefnogi gwaith Cymorth Cristnogol.