Eira mawr 1982

Ydy chi’n cofio eira mawr 1982 – 40 o flynyddoedd yn ôl? Ble oeddech chi? Beth yw’ch atgofion?

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies

Dyma gyfle i ni gyd i hel atgofion am EIRA 1982, 40 o flynyddoedd yn union yn ôl.

Ewch ati i dwrio yn yr albym lluniau neu dyddiaduron i weld a oes gyda chi atgofion i’w rannu.

21:35

Y ffordd mewn i bentre Llanddewi Brefi. 
llun- Lois Williams

20:57

Y ffordd o Danlan i Ddeunant ger Parc-y-rhos wedi ei chlyrio ac Eirwyn Saer yn mentro arni yn ei fan.

19:11

P1090162

Llwybr yr ardd yn Coedyglyn, Llanybydder.

Llun gan Dewi Davies, Llanybydder.            

19:10

Dewi yn gwneud llwybr i gael glo i’r tan.

Llun gan Dewi Davies, Llanybydder. 

19:09

Yr hewl wrth fynd am Alltyblaca.   

Llun gan Dewi Davies, Llanybydder.

19:08

Tu fas i Swyddfa Evans Bros, Llanybydder.

Llun gan Dewi Davies, Llanybydder.   

06:23

Stryd y Bont Llanbed.

19:05

Stryd y Bont yn ystod yr eira

19:04

Gwynfor Lewis yn llwytho cêc i’r hofrennydd mewn cae (lle mae maes parcio’r Co-op heddiw) yn Llanbed er mwyn cyflenwi creaduriaid fferm.

17:20

Parc-y-rhos yn yr eira.