Eira mawr 1982

Ydy chi’n cofio eira mawr 1982 – 40 o flynyddoedd yn ôl? Ble oeddech chi? Beth yw’ch atgofion?

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies

Dyma gyfle i ni gyd i hel atgofion am EIRA 1982, 40 o flynyddoedd yn union yn ôl.

Ewch ati i dwrio yn yr albym lluniau neu dyddiaduron i weld a oes gyda chi atgofion i’w rannu.

20:38

Ffordd yr A485 ar gau i gerbydau ger Hafod Cwmann oherwydd y lluwchfeydd, gyda Fronhaul a’r Hen Ficerdy yn y cefndir.

19:33

Dyma fel oedd hi yn ty ni (Gafryw Uchaf, Cribyn Road) 40 mlynedd yn ol – methu mynd allan o’r drws ffrynt na lan yr hewl! Lwcus bod drws y bac yn glir!

17:13

Clyrio llwybr i ddrws ffrynt Maesyrhaf, Stryd y Bont, Llanbed.

15:00

Yr Afon Teifi wedi rhewi o dan bont y rheilffordd yn Llanbed.

14:36

Gwen, Gelliddewi yn rhofio eira o ddrws y ffrynt yng Nghwmann.

14:21

Lori yn dod nôl o Gribyn.

14:21

Tractor ar top rhiw Pwll y bryn. 

14:20

Dyma luniau gan Marian Morgan neu Marian, Maesnewydd.

Hewl Llanwnnen i Cribyn yw hon ar bwys Maesmynach. Method Eirwyn fynd â’r lori lan rhiw Llanwenog ac aeth a hi nôl i Llysmynach a bu’r lori yno am o leiaf 9 diwrnod. Cerddod dad adre i Maesnewydd. 

14:16

Dydd Llun, 11eg

Sych ond yn rhewi’n galed.

Gareth allan yn glanhau’r eira i Hetty. Ni ein 3 a Lilwen lan yn siopa a mofyn bara o Llambed. Yr hewl yn wael, ond fe ddaethom adre yn saff. Yna, fe aethom lawr a bara i Clettwr Side yn Pontsian. Croesi caeau a mynd trwy lluwchfeydd uchel iawn. Gareth allan gyda Eifion yn mynd a llaeth i gwrdd a tanker.

14:16

Dydd Sul, 10fed

Gwynt cryf yn y bore, sych ond yn oer.

Gareth wrthi yn clirio’r eira yn y bore.

Aethom allan yn y car ond gorfod troi nôl ar bwys Maesnewydd. Gareth wedi bod yn Pantmeddyg yn helpu Dai wrth y defaid.