
Dyma gyfle i ni gyd i hel atgofion am EIRA 1982, 40 o flynyddoedd yn union yn ôl.
Ewch ati i dwrio yn yr albym lluniau neu dyddiaduron i weld a oes gyda chi atgofion i’w rannu.


Contractwyr Jones Bros, Henllan yn cario crates llaeth o Highmead Dairies i Aberystwyth. Y tractor fan hyn ar bwys Cribyn ar y ffordd i Aberystwyth. Roedd rhaid torri bwlche cae a theithio yn y caeau lle roedd y rhewlydd gyda lluwche o glawdd i glawdd.
Llun: Marian Morgan

Ar ben 4 diwrnod mynd lawr i Landysul i hol ambell neges. Dim ond tractors oedd yno!!
Llun: Marian Morgan

Sian, Marian ac Edward, Maesnewydd wedi mynd gyda Eirwyn yn y tractor o Gwmsychpant i Gribyn i weld mam-gu a tad-cu Llysmynach [cyfuniad o fynd drwy caeau ac ar yr hewl].

Corni, Gwarnant a Huw, Tanrhos yn clirio’r hewl am Clyncoch a Cathal.
Llun: Marian Morgan

Dai Ram yn dod mas drwy ffenest y lofft yn Nhafarn y Ram, Cwmann.

Helena yn disgwyl ei babi cyntaf a ddim yn cael mynd mas yn gwylio o ffenest lofft Hafdre Cwmann gyda’r car Honda o dan yr eira.

Dim ceir yn Stryd y Bont Llanbed.

Nancy a Tegwen yn nrws ffrynt Emlyn Cottage, Cwmann.

Dim lle i barcio ym maes parcio Tafarn y Ram, Cwmann.

Gwyn Williams ar Ffordd yr A482 ger Coedeiddig, Cwmann oedd ar gau i gerbydau. Edrych i gyfeiriad Llanbed.

Gwyn Williams ar Ffordd yr A482 ger Coedeiddig, Cwmann oedd ar gau i gerbydau. Edrych i gyfeiriad Pumsaint.

Gwyn Williams ar ben lluwch eira anferth ger Coedeiddig, Cwmann.
Lluniau o Gwmann gan Bryn ac Helena Gregson.

Dafydd Lewis wedi dringo i ben lluwch eira yn Stryd y Bont.

Stryd y Coleg, Llanbed.

Drefach
Llun – Eifion Davies

Bedwyr ar ei feic yn Afallon.
Llun – Eifion Davies

Drefach
Llun – Eifion Davies