Yr Eisteddfod Genedlaethol yn gadael ei marc ar yr ardal leol.

Mae’n bryd edrych nôl ar wythnos Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.

gan Ifan Meredith

Wedi wythnos lwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, edrychwn nôl ar yr wythnos a chael ymatebion gwahanol.

Ar ddiwedd yr wythnos, cadarnhawyd bod swm record o £463,671 wedi cael ei godi gan Geredigion wrth groesawi’r Eisteddfod ac wrth godi’r arian yma, bu yna lawer o ymwneud cymunedol. Agwedd bwysig arall o godi arian a’r Eisteddfod oedd bod plant a phobl ifanc wedi cael eu cynnwys gan eu bod wedi cael cyfleoedd di-ri yn ystod yr wythnos ond, beth am ar ôl yr Eisteddfod adael?

Mae’n rhaid dechrau gyda’r gwaddol gweledol yn Nhregaron wrth gyfeirio at Gerrig yr Orsedd er enghraifft.

Mewn sgwrs ddiwedd yr wythnos, medd Gwenllian Carr o’r Eisteddfod eu bod yn trio gadael gwaddol ieithyddol, diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd yn yr ardal.

Bu’r Eisteddfod ‘yn llwyddiant ysgubol’ yn ôl datganiad gan Gyngor Sir Ceredigion ac mi fu yn ‘braf croesawu pobl o bell ac agos’ i’r sir.

“Braint Ceredigion oedd cael croesawu Eisteddfod Genedlaethol Cymru i’r sir. Bu’n llwyddiant ysgubol – o’r cystadlu i’r cyd-ddathlu – a bydd holl waith caled trigolion Ceredigion yn parhau fel gwaddol cryf i’r dyfodol. Pleser oedd gweld pobl yn mwynhau yn ein sir, gan gefnogi ein heconomi leol a rhyfeddu at gyfoeth a phrydferthwch naturiol ein hardaloedd gwledig. Braf hefyd oedd gweld cymaint o bobl yn mwynhau yn ardal Pentre’ Ceredigion, lle cyflwynwyd arlwy arbennig i ddathlu busnesau, pobl, a straeon lleol. Llongyfarchiadau mawr iawn i bawb. Byddwn yn sugno mêl o gwch atgofion yr wythnos hon am flynyddoedd i ddod rwy’n siŵr, a dymunwn yn dda i’r brifwyl yn y dyfodol.” – Cynghorydd Bryan Davies

‘Eisteddfod er budd y gymuned leol’
Wrth godi arian a gosod cyllid, nod yr Eisteddfod yw gweithio gyda chymunedau sydd yn anoddach i gyrraedd wrth eu cyflwyno drwy ddiwylliant cyn trefnu’r ŵyl er mwyn darparu i’r trawstoriad eang o gymdeithas mewn rhai ardaloedd. Ond, a oedd er budd pobl leol yn ariannol? Yn ôl datganiad gan Gyngor Sir Ceredigion, oedd, wrth i bobl gefnogi yn ystod yr wythnos ‘boed hynny ar y maes neu wrth i bobl grwydro ymhellach i gefnogi busnesau’r sir’.

‘Ateb i anghenion ym mhob ardal’
Er mwyn gwneud hyn, mae’r Eisteddfod yn wahanol ym mhob ardal y mae’n teithio ac yn dysgu gwersi a gwella ar ôl pob blwyddyn.

Un peth oedd yn wahanol yng Ngheredigion oedd Pentre’ Ceredigion lle cynhaliwyd llu o weithgareddau. Yn ôl y Cyngor, ymwelodd dros 25 mil o bobl yr ardal yma o’r maes i gefnogi busnesau newydd a gweld llawer o weithgareddau amrywiol yn ystod yr wythnos.

Steddfod y bobol.
Mae’r Eisteddfod yn fudiad sydd wedi ei yrru gan y bobl gan mai gwirfoddolwyr sy’n gwneud rhan fwyaf o’r gwaith trefnu a magu syniadau yn flynyddol.

“Mae wedi bod yn sbardun hefyd i gorau ailddechrau ar ôl Covid a gobeithio parhau”, esboniodd Elin Jones yn y sgwrs wrth iddi egluro ei bod hi wedi bod yn rhan o grŵp canu Cwlwm ers Eisteddfod Llanbed 1984 am 15 mlynedd.

Mae un o drefnwyr Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023, Guto Dafydd yn gweld yr Eisteddfod yn brosiect cymunedol am ddwy flynedd ac yna gŵyl ar y diwedd ac am wneud ardal Llŷn ac Eifionydd yn le mwy atyniadol i deuluoedd ifanc.

“Hoffai Cyngor Sir Ceredigion ddiolch i Eisteddfod Genedlaethol Cymru am bob cydweithrediad wrth baratoi ar gyfer yr Eisteddfod, ynghyd â diolch i drigolion lleol am gynnal prifwyl penigamp ac i bawb a gafodd gyfle i ymweld a mwynhau yn ein sir arbennig ni.”