Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn ‘Gwledda’ yn Llanbedr Pont Steffan!

Dewch i Ganolfan Creuddyn dydd Mawrth 12fed Gorffennaf rhwng 10.00 ac 1.00 

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones

Dewch i Sesiwn Arddio, Barddoni a Storïau yng nghwmni’r bardd Hywel Griffiths, y chwedleuwr Ceri Phillips a’r cerddor Lisa Angharad gynhelir 12fed Gorffennaf rhwng 10.00 ac 1.00 yng Nghanolfan Nghreuddyn.  Darperir lluniaeth ysgafn  a’r cyfan  am ddim. Cysylltwch gyda Lowri Davies ar 07834 456344 am fwy o wybodaeth ac i archebu lluniaeth. Croeso cynnes i bawb.

Dyma fydd yr ail sesiwn yn dilyn llwyddiant y Sesiwn Decstiliau tan arweiniad yr artist Carys Hedd, Lowri Davies a Kim Stoddart gynhaliwyd 5ed Gorffennaf yng Nghanolfan Creuddyn. Daeth nifer dda ynghŷd i greu delweddau o blanhigion allan o decstiliau a phaent. Bydd y darnau yn cyfrannu at greu blanced bicnic sydd i’w harddangos ar Faes yr Eisteddfod ym mhabell Cyngor Sir Ceredigion prynhawn Mercher 3ydd Awst am 5.00 o’r gloch. Cewch mwy o’r hanes yng nghyfweliad Clonc360 gyda Carys Hedd, Lowri Davies a Kim Stoddart o Garden Organics.

Trefnir y sesiynau yn Llanbed a’r rhai gynhelir yn Aberporth, Aberystwyth a Llandysul gan Lowri Davies mewn cydweithrediad gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion. Diolch am gefnogaeth Cered (Menter Iaith Ceredigion dan adain Cyngor Sir Ceredigion), Cynnal y Cardi (Cyngor Sir Ceredigion gyda chymorth Cronfa Amaethyddol  Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru), Cyfoeth Naturiol Cymru a Chelf a Busnes Cymru.