Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn ‘Gwledda’ eto yn Llanbedr Pont Steffan!

Sesiwn Arddio, Barddoni a Storïau yng Nghanolfan Creuddyn

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
DA6AE828-9455-4D70-9B82
7E0A25E1-BF7F-4A50-BC19
5B3BCECA-03A3-46E7-9773
C4C3F06E-123B-4F62-9C64
0286628D-A4F2-4FF6-AE32

Cynhaliwyd yr ail sesiwn o ‘Gwledda’ dydd Mawrth 12fed Gorffennaf yng Nghanolfan Creuddyn. Sesiwn Arddio, Barddoni a Storïau y tro hwn yng nghwmni’r bardd Hywel Griffiths a’r chwedleuwr Ceri Phillips. Treuliwyd bore hwyliog yn garddio tan arweiniad Kim Stoddart o Garden Organics. Adroddwyd storïau am dyfu llysiau a ffrwythau… a delio gyda phroblemau cathod a gwlithod! Bu Hywel a Ceri yn gwrando ac yn cofnodi’r sgyrsiau fydd yn sail i’r cerddi a’r chwedlau.

Dyma’r ail sesiwn yn dilyn llwyddiant y Sesiwn Decstiliau tan arweiniad yr artist Carys Hedd, Lowri Davies a Kim Stoddart gynhaliwyd 5ed Gorffennaf yng Nghanolfan Creuddyn. Daeth nifer dda ynghyd i greu sawl darn o waith celf yn seiliedig ar y sesiynau garddio gynhelir yng Nghanolfan Creuddyn. Trefnwyd y sesiynau fu yn Llanbed ac yn Aberporth, Aberystwyth a Llandysul gan Lowri Davies mewn cydweithrediad gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion.

Bwriedir arddangos y gwaith crefft a chlywed barddoniaeth Hywel Griffiths a chwedlau Ceri Phillips yng nghwmni’r cerddor Lisa Angharad (o’r grŵp Sorela) ar Faes yr Eisteddfod. Croeso cynnes i bawb i stondin Cyngor Sir Ceredigion prynhawn Mercher 3ydd Awst am 5.00 o’r gloch.

Diolch am gefnogaeth Cered (Menter Iaith Ceredigion dan adain Cyngor Sir Ceredigion), Cynnal y Cardi (Cyngor Sir Ceredigion gyda chymorth Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru), Cyfoeth Naturiol Cymru a Chelf a Busnes Cymru.