Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbed…Apêl i enillwyr 2019

A ydych chi wedi dychwelyd eich cwpan, tarian neu dlws sialens?

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
08313B97-A906-4874-928E
8C41AA20-6F5A-4D8E-88B3

Dyma apêl garedig at enillwyr 2019 i ddychwelyd y cwpanau, y tariannau a’r tlysau sialens. Gofynnir i chi eu dychwelyd i’r Is Gadeirydd a’r Prif Stiward Llwyfan, Emlyn Davies, Delfryn, 43 Bro Einion, Llanybydder, Sir Gaerfyrddin SA40 9RT erbyn dydd Llun, 22ain Awst os gwelwch yn dda. Pe byddech am wneud trefniadau eraill i’w dychwelyd mewn da bryd gogyfer Eisteddfod 2022, gellir ei ffonio ar 01570 480318.

Mae rhai o’r tlysau eisoes wedi eu dychwelyd a’r tîm o wirfoddolwyr yn eu cael yn barod ar gyfer yr Eisteddfod.  Y mae’r Eisteddfod yn ffodus iawn o’r gwirfoddolwyr gweithgar sy’n ei threfnu a’i chynnal yn flynyddol. Os hoffech gynorthwyo’r Eisteddfod megis trwy fod yn stiward, byddai’r swyddogion yn falch iawn o glywed gennych. Cysylltwch gyda’r Ysgrifennydd Cyffredinol, Dorian Jones (01570 422678) i drafod sut allwch gyfrannu.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Lanbed 27ain, 28ain a’r 29ain Awst. Pob dymuniad da i’r holl gystadleuwyr yn Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan 2022.