Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbed…cyhoeddi Llywyddion a Gwesteion 2022

Mae’r Beirniaid, Cyfeilyddion a’r Arweinyddion yn barod!

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
5B45BB1E-6E67-4A6D-A773
30D20A9E-79DF-4F6F-A2D4
8E54035C-53AE-46C1-A09D

Edrychwn ymlaen at groesawu Llywyddion Eisteddfod 2022. Llinos Jones, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Bro Pedr, Llanbed yw’r Llywydd ar y dydd Sadwrn. Gwilym Dyfri Jones, Profost Campysau Llanbed a Chaerfyrddin Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yw’r Llywydd yn Llais Llwyfan Llanbed ar y nos Sul. Croesewir Gwynfor Lewis o gwmni masnachwyr amaethyddol W. D. Lewis a’i Fab, Llanbed a Pumsaint yn Llywydd ar y dydd Llun.

Y Parchedig Peter Thomas, Aberystwyth fydd yng ngofal Oedfa Undebol yr Eisteddfod yng Nghapel Noddfa am 10.30 o’r gloch ar y bore Sul. Y Cynghorydd Helen Thomas, Maer Llanbedr Pont Steffan fydd yn agor diwrnod ola’r Eisteddfod am 11.15 ar y bore Llun.

Ni ellir cynnal yr Eisteddfod heb feirniaid! Edrychwn ymlaen at groesawu:

  • Cerdd: Catrin Aur, Robyn Lyn Evans, Kim Lloyd Jones a Gareth Wyn Thomas
  • Cerdd Dant ac Alaw Werin: Rhiannon Ifans
  • Llefaru: Siôn Jenkins ac Ivoreen Williams
  • Llenyddiaeth: Gwennan Evans a’r Prifardd Ceri Wyn Jones
  • Celf a Chrefft: Beca James a Bethan James

Y mae cyfraniad cyfeilyddion yr Eisteddfod hefyd yn allweddol. Cawn gwmni J. Eirian Jones, Manon Fflur Jones, Rhiannon Lewis, Rhiannon Pritchard, Lois Williams a’r delynores Gwawr Taylor. Yn cadw trefn o’r llwyfan fydd yr arweinyddion sef Lena Jenkins, Dorian Jones, Llinos Jones, Dylan Lewis, Rhiannon Lewis, Delyth Morgans Phillips, Manon Richards, Hywel Roderick ac Elin Williams.

Diolch ymlaen llaw iddynt i gyd am eu holl waith a’u cyfraniadau tuag at gynnal a chefnogi Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbed. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbed 27ain, 28ain a’r 29ain Awst, 2022. Bydd yn braf cyfarfod i ddathlu ein diwylliant a chroesawu’r cystadleuwyr, beirniaid, noddwyr a’r gynulleidfa yn ôl i Lanbed.