Eisteddfod a fi

Noson yng nghwmni Myrddin ap Dafydd, Linda Griffiths a Dylan Iorwerth

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies
IMG_7555
IMG_7560
IMG_7564
IMG_7567

Euros yn dal y llun yn barod i’w werthu

Cynhaliwyd noson yng nghwmni’r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd a Linda Griffiths gyda’r Prifardd Dylan Iorwerth yn eu holi yn Ysgol Dyffryn Cledlyn i godi ymwybyddiaeth io Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022.

Bu’r tri yn sôn am eu hatgofion nhw gyda’i gilydd yn y Brifysgol yn Aberystwyth. Yna, sgwrs am bobl sydd wedi dylanwadu arnynt sef y diweddar T Llew Jones, Dic Jones ac Elfed Lewys. Bu trafodaeth am wahanol eisteddfodau’r gorffennol megis Aberteifi, Meifod a Llanrwst, ac wrth gwrs edrych ymlaen at Eisteddfod Tregaron ymhen 7 wythnos. Bu Linda yn ein swyno gydag ambell ffefryn o’i chaneuon, gydag Aled Morgan wrth y piano.

Ar ddiwedd y noson, gwerthodd Myrddin ap Dafydd lun o Geredigion o waith Rhiannon Roberts.  Diolchwyd i bawb am gefnogi gan y Cadeirydd sef y Cyng. Euros Davies.