Estyn dwylo dros y môr

O Lanybydder i Wcráin.

gan Gwyneth Davies

‘Beth allwn ni wneud i helpu?’ yw’r cwestiwn ar wefusau nifer ohonom wrth i ni weld delweddau ysgytwol o’r rhyfel ar y newyddion. Lawr yn adeilad y ‘Golden Scissors’ yn Llanybydder felly, ces gyfle i sgwrsio â Conrad Seaman er mwyn darganfod pam y penderfynodd e ‘estyn dwylo dros y môr’. Dyma gyfieithiad y sgwrs a gawsom.

Pam aethoch chi ati i helpu pobl Wcráin?

Wrth wrando’n ddyddiol ar y newyddion a sylweddoli difrifoldeb yr hyn sy’n digwydd yno, penderfynais fynd ati i wneud rhywbeth i helpu. Felly rhyw wythnos a hanner yn ôl, holais ar weplyfr a oedd rhywun arall yn teimlo’r un peth â fi ac am gynorthwyo dioddefwyr y rhyfel. Roedd yr ymateb yn anhygoel a dweud y gwir a phobl yn syth yn cynnig help a chyfrannu nwyddau fel past dannedd, sebon a blancedi! O fewn byr amser, cynigwyd pedair canolfan i mi hefyd – un yn Aberystwyth, dwy yn Aberteifi ac un yng Nghei Newydd. Y cam nesaf wedyn oedd chwilio  lle i storio’r nwyddau a dw i’n ddiolchgar iawn i Ieuan Davies am adael i ni ddefnyddio’r ‘Golden Scissors.’

Chi’n sy’n gyfrifol am drefnu’r cyfan felly?

Er mai fy syniad i oedd hyn yn y lle cyntaf, alla i ddim cymryd y clod gan fod cymaint o bobl wedi bod ynghlwm â’r fenter a dw i’n ddiolchgar iawn i chi i gyd. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch yn arbennig i gwmni dodrefn ‘Davies & Davies’, Llandysul am roi benthyg fan i ni ac am bob cymorth ry’n ni wedi ei dderbyn oddi wrthynt.

I ble mae’r nwyddau’n mynd o Lanybydder?

Aeth y llwyth cyntaf i Wrecsam ac oddi yno bydd confoi o loriau’n mynd heddiw (Dydd Sadwrn, Mawrth 12fed) â’r nwyddau i Wcráin. Chwap ar ôl i ni ddechrau ar y fenter, fe dderbynion ni nwyddau o’r ddwy ganolfan yn Aberteifi yn ogystal â’r ganolfan yng Nghei Newydd. Daeth 6 neu 7 car yma yn llawn nwyddau hefyd ac roedd rhai ohonynt wedi dod o gymunedau ehangach. Mae ysgolion a ‘Coleg Ceredigion’ wedi cyfrannu bocsys esgidiau llawn nwyddau ac ry’n ni’n ddiolchgar iawn iddyn nhw. Wrth wirio cynnwys y bocsys,  daeth dŵr i’r llygaid wrth weld y negeseuon teimladwy.

Cyn bo hir, bydd rhywun o Aberteifi’n gyrru lori’n syth i Romania gan alw yn Llanybydder i godi’r nwyddau sydd yma yn hen siop y ‘Golden Scissors’.

Beth hoffech chi weld pobl yn cyfrannu felly?

Do’n i ddim yn disgwyl llawer o nwyddau ar y dechrau a dweud y gwir ond mae pobl wedi bod yn hael dros ben. Does dim angen mwy o bethau arnom ar hyn o bryd. Gwirfoddolwyr i helpu i ddidoli’r nwyddau sydd angen nawr. Felly os oes gennych chi ychydig o amser sbâr, cysylltwch â fi Conrad Seaman ar 07359 068570 cyn gynted â phosibl. Diolch yn fawr iawn i bawb.

Dyma’r oriau agor:

Dydd Llun – 12yp-4yp

Dydd Mawrth – 2yp–4yp

Dydd Mercher – 2yp–4yp

Dydd Iau – 10yb–4yp

Dydd Gwener – 2yp-4yp

Dydd Sadwrn – 10yb-12yp / 2yp–4yp