Dau fanc wedi cau a dau arall yn parhau

Diwedd y daith i Fanc Barclays ar Sgwâr Harford Llanbed heddiw

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
C387D033-38FF-46EB-B45B
14255B20-ADA8-4450-97DD

Caeodd Banc Barclays ar Sgwâr Harford Llanbed heddiw. Dyma’r ail fanc i gau yn y dref yn y blynyddoedd diweddar.  Mae Banc Nat West ar y Stryd Fawr wedi cau yn barod.

Ar y llaw arall mae Banc HSBC ar Sgwâr Harford a Banc Lloyds ar y Stryd Fawr yn dal ar agor yn y dref.  Mae HSBC ar agor pum niwrnod yr wythnos rhwng 9.30yb a 3.30yp, ond mae oriau agor Banc Lloyds yn Llanbed wedi lleihau i Ddydd Llun, Mawrth a Iau yn unig rhwng 9.30yb a 3.30yp.

Ond roedd hi’n ddiwedd cyfnod go iawn ar adeilad mor amlwg ar Sgwâr Harford heddiw.  Erbyn y prynhawn ma roedd ffenestri Banc Barclays wedi eu gorchuddio a’r peiriant twll yn y wal yno wedi ei ddiffodd.

Does dim yr un banc bellach mewn trefi gwledig cyfagos fel Llanybydder, Tregaron, Aberaeron na Llandysul sy’n amddifadu cymunedau o wasanaethau angenrheidiol cyfleus.

Mewn cyfarwyddiadau a roddwyd i gwsmeriaid Barclays dywedwyd:

Mae dal gennych ddigon o opsiynau, yn cynnwys Bancio Ar-lein ac ap Barclays, sydd ar gael 24 awr y dydd.

Os hoffech ddefnyddio cangen wahanol ewch i Landeilo neu Gaerfyrddin.

Gallwch hefyd ymweld ag unrhyw Swyddfa Bost i godi arian, talu arian parod neu sieciau i fewn, a gwirio’ch balans, neu ddefnyddio unrhyw beiriant twll yn y wal LINK i godi arian parod a chael mynediad at lawer o wasanaethau eraill.

Yr un agosaf i’r gangen hon yw Swyddfa Bost, Stryd y Bont.  Twll yn y Wal am ddim: HSBC Sgwâr Harford.

Beth ddaw i adeiladau mawreddog a fu unwaith yn fencydd yn ein trefi?  A sut y gall Llanbed a’i phobl addasu wrth fancio a masnachu?  Amser a ddengys.