Bu farw’r chwedlonol Dai Ram ddoe

Colli un o gymeriadau mwyaf hoffus ac adnabyddus yr ardal

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Ddoe, bu farw Dai Jones, neu Dai Ram fel ei adnabyddwyd yn lleol, a hynny ar yr un diwrnod â marwolaeth y frenhines.

Daeth Dai yn wreiddiol o Lundain cyn symud i Dregaron fel faciwi.

Ceir crynodeb o’i gefndir ganddo yn llyfr Côr Meibion Cwmann a’r cylch sef ‘Cofio’r Hanner Canrif’,

“Cefais fy ngeni yn Llundain i’r de o’r Afon Tafwys i rieni o gefn gwlad Aberteifi.  Cael cyfnod fel ‘evacuee’ yn Nhregaron a Llanfair Caereinion.  Wedi chwarae tipyn o rygbi i dîm Cymry Llundain pan oeddynt yn chwarae yn Hern Hill.  Cerddoriaeth yn amlwg yn fy mywyd.  Canu yng Nghôr Ieuenctid Eglwys St Bennetts ger Eglwys Gadeiriol St. Pauls.  Yn gyd sylfaenydd Côr Meibion Cymry Llundain ar ôl y rhyfel.”

Cofir amdano ef a’i wraig Anne yn berchnogion ar dafarn hynafol y Ram yng Nghwmann.  Roedd y ddau yn rhedeg y lle fel tafarn gartrefol am flynyddoedd ac yn gyfrifol am nosweithiau mawr yno.

Yn dilyn hynny bu’r ddau yn rhedeg deli yn y Stryd Fawr yn Llanbed (lle mae Granny’s Kitchen heddiw) ac yna’n ddiweddarach yn rhedeg y Royal Oak.

Er iddo golli Anne, parhaodd Dai i weithio’n ddiwyd i’w wythdegau ac roedd ei le bwyta sef Dai’s Diner yn Stryd y Bont yn gweini pob math o fwyd blasus a hynny am oriau hir yn y dydd.

Roedd yn aelod ffyddlon o Gôr Meibion Cwmann a’r cylch ac yn gefnogwr brwd o Glwb Rygbi Llanbed.  Byddai’n hoffi treulio prynhawnau cymdeithasol yng nghwmni ei ffrindiau yno ac yng Nghlwb Bowls Llanbed.

Dywedodd y cynghorydd Rhys Bebb Jones, Dirprwy Faer Llanbed a chyd aelod i Dai yng Nghôr Cwmann,

“Y mae tref ac ardal Llanbed wedi colli cymeriad annwyl, gweithgar ac uchel ei barch ym marwolaeth David Hopkins Jones. Dyma Dai Ram, Dai Royal Oak a Dai’s Diner i gymaint o drigolion Llanbed, Cwmann a’r cylch. Cafodd sawl mudiad a chymdeithas y fraint o’i gael yn aelod gan gynnwys Côr Meibion Cwmann a’r Cylch. Pob cydymdeimlad gyda’i deulu a’i gyfeillion – coffa da amdano.”

Dywedodd Alun Jones, ysgrifennydd Côr Cwmann,

“Colled fawr i ni fel Côr oedd ymadawiad David Hopkins Jones, yn fawr ei barch, yn ŵr cyfeillgar ac yn frwd gyda’r ail denoriaid, ac yn ddoeth ymhob penderfyniad. ‘Roedd yn gymwynaswr di-ball i’r Côr drwy ei haelioni gyda nosweithiau elusenol fel ‘Mefus a Chân’. Bu Dai yngyd â’i ddiweddar wraig Anne yn rhan o Gôr Cwmann ers 1983 pan ddaethant gyda ni i America, a gyda threngl amser wedi gorffen ei yrfa fel gwestiwr daeth yn aelod ffyddlon o’r Côr. Cof da amdano.”

Roedd Dai yn 90 oed pan fu farw a hynny wedi cyfnod byr yng Nghartref Alltymynydd.  Cafodd barti da i ddathlu ei ben-blwydd arbennig yn y Clwb Rygbi ar ddechrau Gorffennaf eleni.

Dyma golli cymeriad arall felly ac un a gyffyrddodd fywydau cymaint o bobl o bell ac agos drwy redeg tafarnau a busnesau’n lleol a hynny gyda gwên groesawgar ar ei wyneb bob tro dros gymaint o flynyddoedd.