Ffair Fartin Llanybydder

Adroddiad Mart 12fed o Dachwedd

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Roedd dros 470 o wartheg stôr yn y mart ddoe gyda phrisiau da iawn ar y cyfan.

Roedd y prisiau uchaf fel y ganlyn

Aner orau £1400 o eiddo Fferm Rhydsais

Eidon gorau £1800 o eiddo Jenkins, Brohedydd

Tarw gorau £2100 o eiddo Jenkins, Tyllwyd

Buwch a llo gorau £1250 o eiddo Williams, Cwmhwplin

Buwch orau £1560 o eiddo Thomas, Ffynon Newydd

Bydd yr arwerthiant nesaf ar y 10fed o Ragfyr gyda sioe nadolig yn ogystal.

Yn y cyfamser, cofiwch ddod i ymweld â ni yn y Ffair Aeaef yn Llanelwedd ar y 28 – 29 o Dachwedd.

Hoffai Evans Bros ddiolch i bawb boed yn brynwyr neu yn werthwyr am eu cefnogaeth cyson i’r farchnad yn ogystal â staff y farchnad am sicrhau bod popeth wedi rhedeg mor llyfn.