Gerddi Cellan ar Gardeners’ World

Stephanie Hafferty yn rhoi dosbarth meistr mewn tyfu bwyd ar gyfer cynhaeaf trwy’r flwyddyn

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Stephanie

Bydd menyw o Gellan yn cael sylw ar raglen aeaf arbennig Gardeners’ World y BBC ar Ddydd Gwener yma 23 Rhagfyr am 9yh. Bydd Stephanie Hafferty yn rhoi dosbarth meistr ar y rhaglen mewn tyfu bwyd ar gyfer cynhaeaf trwy’r flwyddyn.

Yn awdur garddio a bwyd, symudodd Stephanie i Gellan ym mis Mawrth 2021 a dechrau’r ardd yno o’r newydd. Mae’n ardd fwyd gynhyrchiol sy’n defnyddio dulliau garddio dim palu, gyda phwyslais ar arddio bywyd gwyllt, tyfu fforddiadwy a choginio tymhorol.

Ers symud i Gymru mae Stephanie wedi addysgu Tyfu Eich Hunan yn y Gerddi Botaneg ac mewn amryw o brosiectau cymunedol eraill.

Dywedodd Stephanie “Bu’r BBC yn ffilmio yma yng Nghellan ym mis Medi. Buont yma am 12 awr dros ddau ddiwrnod a bydd yn ddiddorol gweld beth maent yn ei ddefnyddio yn y rhaglen. Bydd yr eitem yn para tua 7 munud.”

Yn 2021 bu Stephanie yn rheoli ac yn cyd-ddylunio Gardd Arddangos Rhandiroedd Dim Palu yr RHS yng Ngŵyl Gerddi Hampton Court a gwahodd Adam Jones (Adam yn yr Ardd) i gymryd rhan. Yn ogystal a hynny, mae Stephanie wedi bod yn gweithio gyda Chanolfan Tir Glas Llanbed.

Dywedodd Adam Jones “Mae Stephanie yn arddwraig ddim palu profiadol iawn a bu’n ysbrydoliaeth imi wrth ddysgu dulliau garddio newydd. Cysylltodd â mi nôl yn 2021 wrth symud i Gymru yn nodi ei dymuniad i ddysgu mwy am hanes a thraddodiadau tyfu Cymru yn ogystal â dysgu’r Gymraeg.”

Ychwanegodd Adam “Mae ei hawch a’u hanian i rannu ei gwybodaeth a’i phrofiad garddio yn heintus ac mae ganddi ddawn ddiguro o rannu ei chyngor mewn modd syml, diffwdan a didwyll. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld ei chyfraniad ar BBC Gardeners World y Nadolig hwn.”

Felly cofiwch wylio, lle bydd rhan fach ffrwythlon o’r ardal hon ar raglen deledu boblogaidd i arddwyr.