Gohirio digwyddiadau lleol fel arwydd o barch

Dim gemau hŷn na gweithgareddau bywiog oherwydd marwolaeth y Frenhines

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae nifer o ddigwyddiadau lleol wedi eu gohirio dros y penwythnos oherwydd marwolaeth y Frenhines brynhawn Iau.

Ni fydd tîm cyntaf Clwb Rygbi Llanbed yn teithio i chwarae yn San Clêr prynhawn ma ac ni chynhelir gêm rygbi ym Mharc OJ Llanybydder chwaith rhwng y tîm cartref a Chlwb Rygbi Cwins Doc Penfro.

Cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru,

Mae Undeb Rygbi Cymru yn gohirio pob gêm rygbi hŷn y penwythnos hwn fel arwydd o barch i farwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines.  Bydd trafodaethau pellach ynghylch pryd i ddychwelyd i chwarae yn cael eu cynnal yr wythnos nesaf yn unol â’r protocol brenhinol.

Y ogystal â gemau rygbi, gohirir digwyddiadau cyhoeddus eraill hefyd.  Cyhoeddodd Wyn Jones ar ran Clwb Ffermwyr Ifanc Cwmann,

Yn anffodus bydd rhaid gohirio’r Noson Rownderi yng Nghae Canolfan Cwmann heno yn dilyn canllawiau Ffederasiwn Clwb Ffermwyr Ifanc Cenedlaethol. Ail drefnir ar gyfer y 24ain o Fedi am 5 o’r gloch. Dewch yn llu a lledwch y neges.

Mae canllawiau cenedlaethol Mudiad y Ffermwyr Ifanc yn nodi,

Os ydych chi’n cynnal sioe leol neu gystadlaethau sirol CFfI mewn lleoliad cyhoeddus, ystyriwch a allai’r gweithgareddau gael eu hystyried yn ansensitif.  Os yw’r digwyddiad yn cael ei gynnal mewn man cyfarfod caeedig yna gall digwyddiadau barhau ond ystyriwch ohirio os ydych chi’n cynnwys aelodau ehangach o’r cyhoedd a bod y gweithgareddau’n arbennig o fywiog.

Gohiriwyd Ras Goffa Hag Harris yng Nghlwb Rygbi Llanbed neithiwr a dyma oedd neges Clwb Rhedeg Sarn Helen,

Gyda thristwch mawr y clywsom am farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II. Rydym yn ymuno â llawer o rai eraill i ddangos ein parch ac wedi gwneud y penderfyniad anodd i ohirio ein digwyddiad.  Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y digwyddiad ac i beidio â phoeni, cawn gyfle i ddathlu eto, ond pan fydd yr amser yn iawn. Rydym yn diolch i chi am eich dealltwriaeth a byddwn yn darparu diweddariadau unwaith y byddwn yn gwybod mwy.

Ar y llaw arall, mae rhai digwyddiadau’n mynd ymlaen. Cofiwch gefnogi:

– Bore Coffi Sefydliad y Merched Coedmor i godi arian i MacMillan yng Nghanolfan Cwmann bore ma am 10 o’r gloch.

– Gêm gartref Tîm Rygbi Ieuenctid Llanbed yn erbyn Tîm Ieuenctid Castell Newydd Emlyn prynhawn ma am 2.30 o’r gloch.

– Welsh Whisperer yn Neuadd Fictoria Llanbed heno am 7 o’r gloch.