Goleuo Tŵr y Dderi ar gyfer Eisteddfod 2022

Os byddwch chi’n teithio o Lanbed i Dregaron yn ystod wythnos yr Eisteddfod, fe welwch dirnod mwyaf eiconig ein hardal wedi’i oleuo

gan Elliw Dafydd
Tŵr y Dderi

Tirnod eiconig Betws Bledrws

Faint ohonoch chi sydd wedi sylwi ar Tŵr y Dderi? Wel, fe fyddwch chi yn ystod Eisteddfod 2022 Ceredigion! Mae’r tŵr, sydd wedi’i leoli ger pentref Betws Bledrws, yn cael ei oleuo i ddathlu’r digwyddiad cenedlaethol.

Bydd y goleuadau’n cael eu cynnau ar ddydd Gwener 29 Gorffennaf i gyd-fynd â dechrau’r Eisteddfod. Bydd y tirnod i’w weld o’r ardaloedd cyfagos ac yn olygfa drawiadol ar noson o haf.

Ychydig o genfdir y tŵr

Adeiladwyd Tŵr y Dderi rhwng 1821 a 1824 ac fe’i hariannwyd gan John Jones, sgweier ystâd Derry Ormond. Cyflogodd adeiladwr lleol, David Morgan a dynion lleol i adeiladu’r tŵr, 127 troedfedd o uchder er mwyn lleddfu eu dioddefaint yn sgil y dirwasgiad a’r diffyg gwaith a ddilynodd y rhyfeloedd Napoleon.

Y noddwyr

Dunbia sy’n noddi’r achlysur hwn ynghyd â changhennau NFU Cymru Tregaron ac Aberaeron. Fel stad Derry Ormond nôl yn y 19eg Ganrif, mae Dunbia yn gyflogwr allweddol yn yr ardal gyda’i safle yn Llanybydder yn cyflogi dros 350 o staff parhaol. Mae’r safle’n prosesu 32,000 o ŵyn yr wythnos a gyflenwir gan lawer o ffermydd lleol. Mae Dunbia wedi buddsoddi’n sylweddol yn y safle wrth iddo geisio darparu dyfodol cynaliadwy i’w holl randdeiliaid.

Dywedodd Alison Harvey, Rheolwr Amaethyddiaeth Dunbia: “Mae safle Dunbia yn Llanybydder wedi’i amgylchynu gan ffermwyr da byw sy’n cynhyrchu rhai o’r cig eidion a chig oen o’r ansawdd gorau o Gymru ac rydym yn falch o ymuno gyda’r gymuned yn nathliadau Eisteddfod 2022 trwy oleuo Tŵr y Dderi. Mae staff Dunbia’n edrych ymlaen yn awchus at weld y tŵr sydd i’w weld o Lanybydder.”

Nododd Ysgrifennydd Grŵp NFU Cymru yn Nhregaron, Heather Holgate: “Mae’n hyfryd gallu croesawu’r Eisteddfod yma i Dregaron, er ei fod ychydig flynyddoedd yn hwyrach na’r disgwyl oherwydd y pandemig. Rhaid i mi ddiolch i gyn-gadeirydd Sirol NFU Cymru, Aled Lewis a’r teulu am gynnal y digwyddiad ar eu fferm. Mae’r Eisteddfod yn ddigwyddiad mor bwysig i’r Gymraeg ac i’n cymunedau lleol ac mae noddi’r goleuadau ar gyfer Tŵr y Dderi yn ffordd wych i ni arddangos ein hardal leol.”

Yn ôl Eryl Evans, Cadeirydd Cymdeithas Budd Cymunedol Menter Silian, sydd wedi trefnu’r goleuo hwn: “Mae Tŵr y Dderi yn dirnod arbennig yn yr ardal ac rydym yn hynod falch o’i bwysigrwydd hanesyddol. Mae cael dau gyflogwr mawr fel Dunbia ac NFU Cymru yn noddi’r prosiect hwn yn gydnabyddiaeth wych o’i arwyddocâd i’r gymuned, ac rydym yn gyffrous iawn i gael y cyfle hwn wrth i’r Eisteddfod ddod i Dregaron. Mae ein diolch i deulu Morgan o Benparc am ganiatáu i hyn ddigwydd ar eu tir.”