Gorymdaith Gwener y Groglith yn Llanbed

Eglwysi a Chapeli Cytûn Llanbedr Pont Steffan yn cofio am y croesholiad.

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones

Daeth tyrfa dda o blant, ieuenctid ac oedolion ynghyd yn Llanbed ar Ddydd Gwener y Groglith i gofio am groeshoeliad Iesu ar Fryn Calfaria, Jerwsalem. Braf cynnal y digwyddiad symbolaidd hwn eleni yng nghwmni aelodau a chyfeillion Cytûn Llanbed. Ni chynhaliwyd ers Pasg 2019 oherwydd pandemig y coronafeirws.

Cychwynnodd y daith o Gapel Noddfa gyda darlleniad a gweddi tan ofal y Parchedig Densil Morgan. Ymlwybrodd y fintai gan ddilyn y groes heibio Eglwys Emmaus ac ymlaen i Sgwâr Harford. Arweiniwyd y defosiwn yno gan y Parchedig Victoria Hackett a Sandra Vaughan-Jones.

Aeth y daith yn ei blaen ar hyd y Stryd Fawr a diweddu gydag oedfa fer ym Mharc St. Germain-Sur-Moine ger Capel Shiloh, Eglwys San Pedr ac Eglwys Mynydd Carmel. Cafwyd darlleniad gan Deborah Rowlands, myfyrdod gan y Parchedig Flis Randall a gweddi gan Rhys Bebb Jones.

Daeth yr oedfa i ben yn sain emyn Gwilym Hiraethog, ‘Dyma gariad fel y moroedd’ a chyfieithiad William Edwards, ‘Here is love, vast as the ocean’. Draw wedyn i Neuadd yr Eglwys am baned a byns bach poeth. Bu’n gyfle am glonc ac ystyried ymhellach arwyddocâd y diwrnod pwysig hwn ym mywyd Cristnogion.

Diolch yn fawr i bawb ymunodd yn y digwyddiad hwn ac i Cytûn Llanbed am ei threfnu. Diolch hefyd i bob un a gymerodd ran ac i aelodau Eglwys San Pedr am y croeso hyfryd a’r lluniaeth yn Neuadd yr Eglwys.