Gwobr o Goleg Iesu i Densil Morgan

Gweinidog ac ysgolhaig o Lanbedr Pont Steffan yn ennill gwobr arbennig o Goleg Iesu Rhydychen.

Delyth Phillips
gan Delyth Phillips

Mae’r gweinidog ac ysgolhaig, y Parchedig Densil Morgan, Llanbedr Pont Steffan, wedi ennill gwobr o Goleg Iesu Rhydychen, am y llyfr gorau gyhoeddwyd yn 2021 yn ymwneud â hanes Cymru.

Cyhoeddwyd y ddwy gyfrol Theologia Cambrensis: Protestant Religion and Theology in Wales gan Wasg Prifysgol Cymru. Mae’r gyntaf yn olrhain hanes Cristnogaeth yng Nghymru o 1588 tan 1760, a’r ail yn canolbwyntio ar y cyfnod 1760-1900.

Wrth longyfarch Densil Morgan ar y cyfryngau cymdeithasol, meddai’r Dr Hefin Jones:
“Llongyfarchiadau enfawr i Densil Morgan. Campwaith o ysgolheictod – llwyr haeddiannol.  Rwy’n dysgu cymaint am fy nhreftadaeth wrth ‘weithio’ fy ffordd trwy’r ddwy gyfrol. Arbennig!”

Ceir datganiad (Saesneg) ar wefan Coleg Iesu yma.

Rydym yn ardal Clonc a Clonc360 yn ymfalchïo’n fawr yn llwyddiant Densil Morgan. Mae’n enw ac yn bregethwr cyfarwydd i gapeli’r broydd hyn oddi ar iddo ymsefydlu yn nhref Llambed yn 2010. Ac oddi ar Hydref 2018, mae’n weinidog ar chwech o eglwysi Cylch Bedyddwyr Gogledd Teifi. Fis Mehefin eleni, caiff ei anrhydeddu â swydd Llywydd Undeb y Bedyddwyr; cawn gyfle i ddweud mwy am hynny maes o law.