Gŵyl Canol Dre a holl weithgareddau Menter Gorllewin Sir Gâr

Newyddion y Fenter Iaith

Gwawr Williams
gan Gwawr Williams
Poster-GCD-22-sgwar

Gŵyl Canol Dre 2022:

Cynhelir Gŵyl Canol Dre ym Mharc Myrddin, Waun Dew, Caerfyrddin ar y 9fed o Orffennaf 2022 ac mi fydd yn cychwyn am 11.00yb ac yn parhau tan 8.00yh. Bydd yr ŵyl yn ddiwrnod o hwyl ac adloniant wedi ei hanelu at deuluoedd a phobl ifanc yr ardal a thu hwnt.

Bydd Gŵyl Canol Dre yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau at ddant pawb. Mi fydd yna brif lwyfan lle bydd bandiau adnabyddus o’r sîn roc Gymraeg yn perfformio ynghyd â’r llwyfan berfformio bydd yn cynnwys perfformiadau amrywiol gan ysgolion yr ardal, sioe gan Mewn Cymeriad a Siani Sionc.

Bydd yna amrywiaeth o weithgareddau difyr a bywiog yn digwydd drwy gydol y dydd megis, sesiynau chwaraeon, sesiynau celf a chrefft, gweithdai llên gydag Anni Llŷn, sesiynau stori a chân, gweithdai digidol, gemau a Clocs Ffit gyda Tudur Phillips, disgo distaw, gweithdai drama a dawns a mwy!

Hefyd mi fydd stondinau ar y maes lle bydd busnesau yn gwerthu nwyddau a chynnyrch a mudiadau lleol yn hyrwyddo eu gwasanaethau. Bydd yna far ac ardal arlwyo yn cynnig amrywiaeth o fwydydd sy’n addas at bawb. Mae mynediad am ddim i’r ŵyl, felly edrychwn ymlaen at eich cwmni ar y 9fed.

Am fwy o wybodaeth am Gŵyl Canol Dre, cysylltwch gyda gwawr@mgsg.cymru

Paned a Sgwrs:

Yn ddiweddar mae’r Fenter wedi dod yn rhan o sesiynau Paned a Sgwrs yng Nghaffi’r Atom, pob ddydd Mawrth o 10-11yb. Cyfle i sgwrsio a chymdeithasu dros baned. Croeso i siaradwyr newydd a siaradwyr rhugl. I gofrestru, cysylltwch gyda ymholiad@mgsg.cymru.

Coffi a Chlonc:

Mae’r sesiynau yma sydd wedi cael eu cynnal ers cychwyn y cyfnod clo yn parhau. Dyma gyfle i ddod ynghyd i sgwrsio a chymdeithasu dros baned bob bore dydd Iau am 10.30yb ar Zoom. Mae’r weithgaredd yma yn addas ar gyfer dysgwyr neu siaradwyr rhugl. I dderbyn y linc cysylltwch gyda ymholiad@mgsg.cymru.

Sesiwn stori:

Rydym yn cynnal ein sesiynau stori yng Nghaerfyrddin pob am yn ail ddydd Llun yng Nghanolfan Chwarae Sgiliau ar y 13eg a 27ain o Fehefin am 10:30yb. Ymunwch â ni mewn sesiwn stori ac ychydig o ganu. Mae’n angenrheidiol i bawb gofrestru o flaen llaw. Cysylltwch gyda alma@mgsg.cymru i gofrestru.

Taith fygi:

Yn dychwelyd mae taith fygi Caerfyrddin pob am yn ail ddydd Llun ym Mharc Caerfyrddin ar y 6ed a 20fed o Fehefin am 10:30yb. Mae’n angenrheidiol i bawb gofrestru o flaen llaw. Cysylltwch gyda alma@mgsg.cymru.

Clybiau Drama:

Mae’r Fenter a Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnig dau glwb drama i blant yr ardal, Clwb Joio Drama ar gyfer blynyddoedd 1-3 ar nos Fercher o 5-5.45pm ac i flynyddoedd 4-6 o 6-7pm. Mae’r clybiau yn cael eu cynnal yn y Stiwdio, Theatr y Lyric, Caerfyrddin. Cyfle i blant dysgu sgiliau, magu hyder a mwynhau. I gofrestru, cysylltwch gydag alma@mgsg.cymru. Diolch i Theatrau Sir Gâr am y croeso cynnes i’r theatr yn wythnosol.

Clwb Garddio:

Mae’r Fenter yn cydweithio gyda Cered – Menter Iaith Ceredigion i drefnu Clwb Garddio yn Yr Ardd, Pont Tyweli. Pob ail ddydd Sadwrn y mis o 11yb-1yp. Cyfle i blannu a thyfu llysiau, ffrwythau a blodau. Croeso i bawb; oedolion a teuluoedd (angen oedolyn yn bresennol gyda phlant a pobl ifanc o dan 18 oed). I gofrestru: llinos.hallgarth@ceredigion.gov.uk neu ymholiad@mgsg.cymru

Ras Bryndioddef:

Yn dychwelyd! Fel sawl digwyddiad cymunedol arall dros Gymru, nid yw Ras Bryndioddef wedi cymryd lle ers 2019, ond eleni ar 21ain o Fehefin am 6yh mae’r ras yn dychwelyd i Gastell Newydd Emlyn ac yn cychwyn o Ysgol y Ddwylan. Fe gafodd y ras ei chynnal am y tro cyntaf yn 1976 felly rydym yn edrych ymlaen at gynnal y ras yn 2022. Am y tro cyntaf eleni mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn gyfrifol am y ras yn dilyn gwaith ffantastig Adran Emlyn a rydym yn edrych ymlaen at y digwyddiad.

Ras i’r teulu cyfan (£2 y person i gystadlu). Bydd angen rhiant i redeg gyda phlant blwyddyn 1 ac iau. Cofrestru ar y noson gyda bwyd ar gael i’w brynu.

Ar droed:

Rydym yn edrych ymlaen at gynnal taith gerdded ‘ar droed’ ar y 4ydd o Orffennaf yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Cilgerran. Bydd paned am 10yb a chychwyn cerdded am 11yb. Pellter y daith fydd 2.5 milltir. Dewch i fwynhau siarad Cymraeg a chyfarfod pobl eraill sy’n dysgu’r iaith ar y daith arbennig yma. Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru, cysylltwch â nia@mgsg.cymru

Cyfryngau Cymdeithasol:

Gyda’r cyfyngiadau yn newid o hyd, mae gwaith y fenter yn newid gydag amryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu cynnal ar-lein. Am y diweddaraf, ewch i’n cyfryngau cymdeithasol:

Facebook – Menter Gorllewin Sir Gar

Trydar – @MenterGSG

Instagram – @MenterGSG

E-bost – ymholiad@mgsg.cymru  neu am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y platfformau yma cysylltwch gyda Ceris ar y ffôn: 01239 712934