Cymru, mae Silian yn barod amdanoch chi!

Wrth edrych ymlaen at groesawu Cymru i Geredigion, mae trigolion pentref Silian wedi bod wrthi’n brysur yn harddu eu hardal.

gan Elliw Dafydd

Os ydych chi’n croesi o’r arfordir draw am Dregaron neu ddod drwy Lanbed, byddwch chi’n dod ar draws croeso twymgalon Silian.

Mae Sophie Gorwydd wedi dylunio murlun bendigedig sy’n dynodi nifer o dirnodau’r ardal rhwng Silian a Thregaron. Yn ôl Sophie, ‘Mae’r dyluniad wedi’i ysbrydoli gan harddwch y dirwedd naturiol o’n cwmpas – y bryniau, y dyffrynnoedd, y ffermydd a’r pentrefi. Peintiodd y plant a’r gymuned y byrddau murlun, gan beintio tirwedd a thirnodau’r ardal leol, gan fwynhau ymdeimlad o berthyn a chartref gyda’i gilydd.’

Canddiolch i ddisgyblion Ysgol-Y-Dderi a fuodd yn brysur iawn yn paentio’r murlun. Yn ogystal â hyn, cafwyd sawl sesiwn baentio gyda thrigolion y pentref yng ngweithdy Alun a Beryl Glantawela.

Ar ôl misoedd o gynllunio ac wythnosau prysur yn rhoi’r syniadau ar waith, mae Menter Silian wedi gosod y murlun ar Bont Glandenys. Yn ôl Eryl Tanygraig, ein Cynghorydd Sir, sydd wedi bod yn arwain ar y prosiect yma, ‘Wedi’r cyfnod clo mae’n gyfle i arddangos sut mae pobl yn medru cyd-dynnu o fewn cymuned ac i hyrwyddo yr elfennau sydd yn bwysig i’n diwylliant a’n hiaith.’

Yn ogystal â’r murlun, mae Menter Silian wedi bod wrthi’n creu byntin a rhubannau i’w gosod o amgylch yr ardal. Mae gennym sypreis bach ar eich cyfer hefyd ar gyfer wythnos yr Eisteddfod…

Felly Gymru oll, cadwch lygad mas am groeso pentref Silian. Beth am gymryd selfie gyda’r murlun? A chofiwch ddilyn @mentersilian ar instagram i ddilyn y prysurdeb!