
Prynhawn ma, cyhoeddodd Heddlu Dyfed Powys enw’r ferch fach a fu farw yn Llanbed yr wythnos ddiwethaf.
Gallwn gadarnhau mai’r ferch wyth oed a fu farw yn Llanbedr Pont Steffan ar Ragfyr 22ain 2022 oedd Emily Tredwell-Scott.
Mae Crwner EM ar gyfer Ceredigion wedi cael gwybod ac wedi derbyn awdurdodaeth am yr achos. Mae ymholiadau’n parhau.
Mae’r heddlu’n yn ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth sydyn anesboniadwy y ferch wyth oed ym Maes-y-Deri.
Cafodd menyw 33 oed ei harestio ar amheuaeth o esgeuluso plentyn ddydd Gwener, 23 Rhagfyr, ac ers hynny mae wedi cael ei rhyddhau dan ymchwiliad tra bod ymholiadau’n parhau.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio hefyd i gysylltiadau â Strep A ymledol ac yn gweithio gyda Chyngor Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dilyn marwolaeth y plentyn.
Mae pawb yn yr ardal mewn sioc o glywed am yr hyn a ddigwyddodd cyn y Nadolig. Gellir darllen am y newyddion a gyhoeddwyd ar wefan Clonc360 ddoe.