Marwolaeth sydyn anesboniadwy merch wyth oed yn Llanbed

Yr heddlu’n ymchwilio a menyw 33 oed wedi ei harestio ar amheuaeth o esgeuluso plentyn

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Nos Iau ddiwethaf gwelwyd holl gerbydau heddlu ac ambiwlans yn ardal Maes-y-deri Llanbed a deallwyd bod plentyn oed cynradd wedi marw.

Wedi i Clonc360 gysylltu â Heddlu Dyfed Powys ddoe, cafwyd y datganiad canlynol heddiw:

Rydym yn ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth sydyn anesboniadwy merch wyth oed ym Maes-y-Deri, Llanbedr Pont Steffan, nos Iau, 22 Rhagfyr.

Cafodd menyw 33 oed ei harestio ar amheuaeth o esgeuluso plentyn ddydd Gwener, 23 Rhagfyr, ac ers hynny mae wedi cael ei rhyddhau dan ymchwiliad tra bod ymholiadau’n parhau.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio hefyd i gysylltiadau â Strep A ymledol ac yn gweithio gyda Chyngor Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dilyn marwolaeth y plentyn.

Mae pobl yr ardal wedi eu syfrdanu gyda’r newyddion trist yma a chydymdeimlir â theuluoedd, ffrindiau a staff ysgol leol yn eu profedigaeth.