Helfa Straeon Llanbed

Gweithgaredd hwyliog i’w wneud yn Llambed yn ystod hanner tymor

Cered Menter Iaith Ceredigion
Poster

Yn ystod gwyliau’r Pasg (9/4/22 – 25/4/22) bydd Llyfrgell Ceredigion, Cered Menter Iaith Ceredigion a Cardi Iaith yn trefnu Helfa Straeon cyffrous o amgylch Llanbed.

Am gyfle i ennill y brif wobr sef Kindle Fire 7, fe fydd angen i’r cystadleuwyr fynd o amgylch siopau’r dref i ddarganfod llyfrau yn eu ffenestri. Mae’r helfa drysor yn addas ar gyfer plant hyd at 14 oed ac mae am ddim i gystadlu.

Bydd angen casglu’r daflen o’r llyfrgell cyn dechrau.

Diolch i’r busnesau yn y dref am eu parodrwydd i gymryd rhan yn yr helfa a phob lwc!