Holi am farn trigolion Llanybydder er mwyn lleihau llifogydd

Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Ceredigion a Chyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda’i gilydd a nodi rhai opsiynau posibl ar gyfer lleihau llifogydd.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Storm-Callum

Y Gwasanaeth Tân yn mynd o dŷ i dŷ yn Llanybydder wedi llifogydd Storm Callum. Llun gan Gary Jones.

Ydych chi’n cael eich effeithio gan lifogydd?

Gofynnir i drigolion yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion leisio eu barn ar gynigion i leihau llifogydd mewn ardaloedd yr effeithir arnynt yn sylweddol, yn Llanybydder, Llandysul a Phont-Tyweli.

Dywed datganiad Cyngor Sir Caerfyrddin, eu bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion a Chyfoeth Naturiol Cymru, ac yn awyddus i gael adborth i ddeall prosesau llifogydd yn well ac asesu gwahanol opsiynau i leihau llifogydd yn dilyn tywydd stormus cynyddol yn ystod misoedd y gaeaf.

Mae’r tair cymuned wedi dioddef nifer o lifogydd, gan gynnwys Storm Callum yn 2018 pan yr effeithiwyd ar eiddo preswyl a masnachol, a ffyrdd yn cau.

Yn dilyn Storm Callum, mae Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Ceredigion a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd ac wedi nodi rhai opsiynau posibl ar gyfer lleihau llifogydd.

Mae’r cynigion yn amrywio o fesurau naturiol i reoli llifogydd, adeiladu argloddiau, amddiffynfeydd uwch, sianeli lliniaru llifogydd a strwythurau rheoli i ddiogelu eiddo unigol ac amddiffynfeydd dros dro.

Bydd adborth o’r rhaglen ymgysylltu ar-lein sy’n cael ei chynnal o 6 Mehefin i 18 Gorfennaf yn cyfrannu at gam nesaf y gwaith a bydd yn llunio rhan o unrhyw benderfyniadau a wneir.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, y Cynghorydd Edward Thomas, Cyngor Sir Caerfyrddin: “Diben y rhaglen ymgysylltu hon yw dangos i drigolion yr amrywiaeth o opsiynau rydym yn bwriadu eu harchwilio ymhellach a chael eu hadborth arnynt, yn enwedig o ran eu hymarferoldeb i reoli perygl llifogydd, a sut y gallai atebion posibl fod yn addas i’r amgylchedd lleol.  Mae’r gwaith hwn yn dilyn yr asesiadau cychwynnol blaenorol a gwblhawyd ar ddiwedd 2020. Byddwn yn annog cynifer â phosibl o drigolion sy’n byw yn yr ardaloedd hyn i roi eu hadborth.”

Er mwyn cymryd rhan yn y rhaglen ymgysylltu ar-lein ewch i’r tudalennau ymgynghori ar wefan y cyngor.