Fel Tom a Jerry, tato o’r un rhych

Iestyn Evans o Gwmann sy’n ateb cwestiynau rhifyn Tachwedd Papur Bro Clonc

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Iestyn

Wrth ateb y cwestiwn “Pryd est di’n grac ddiwethaf?”, esbonia Iestyn yng ngholofn ‘Cadwyn y Cyfrinachau’ Papur Bro Clonc ei fod mor debyg i’w dad Jeff “Yn gweithio gyda Dad, ni’n dau yn gweithio da’n gilydd fel Tom a Jerry, tato o’r un rhych.”

Yn beiriannydd gyda chwmni Volac, mae Iestyn Evans o Gwmann yn rhannu sawl cyfrinach diddorol gyda darllenwyr Clonc.

Beth oedd y peth ofnadwy wnest ti i gael row gan rywun?

Torri’r French Door gyda phêl hoci ar ôl i Dad a Mam bregethau arna i i stopio.

I ba gymeriad enwog wyt ti’n debyg?

Dwayne ‘The Rock’ Johnson ond gyda bach mwy o wallt.

Taset ti’n fisged, pa fath fyddet ti a pham?

Ginger Nut, achos pan fi’n treial tyfu barf ma tint o sinsir ynddo.

Taset ti’n anifail, pa anifail fyddet ti a pham?

Ostrich achos fi’n eitha cyflym a sa i’n hoff iawn o hedfan.

Beth sy’n codi ofn arnat ti?

Pan mae Mam yn dechrau codi ei llais.

Pryd lefaist ti ddiwethaf?

Pan golles i Dadcu.

Pryd oedd y celwydd diwethaf i ti ddweud?

Fy mod yn mynd allan am dim ond un peint.

Er mwyn darllen mwy o ymatebion Iestyn, mynnwch gopi diweddaraf Papur Bro Clonc sydd ar werth yn y siopau lleol ac ar gael fel tanysgrifiad blwyddyn ar y we.