Land’s End i John O’Groats ar gyfer Apêl Cemo Bronglais

Dallas o Gwmann yn codi £1,100 gyda chymorth ei ffrindiau Barry a John.

Bev Thomas
gan Bev Thomas

Da iawn i Dallas Wiseman o Gwmann a feiciodd 970 milltir o Land’s End i John O’Groats a chodwyd £1,100 ar gyfer Apêl Cemo Bronglais.

Llwyddodd Dallas, sy’n rheolwr ôl-werthu mewn garej, i wneud y sialens mewn dim ond 10 diwrnod gyda dau o’i ffrindiau, Barry Davies a John McDonogh.

Meddai: “Roeddem yn cynllunio hyn cyn y pandemig ac o’r diwedd bu’n rhaid i ni ei wneud ym mis Mai. Fel beiciwr brwd, roedd yn bendant ar fy rhestr bwced ac, er ei bod yn anodd gwneud 100 milltir y dydd, roedd yn wych gorffen ar amser.”

Roedd yn fwy o gamp fyth i Dallas oherwydd ei fod wedi torri asgwrn dwbl yn ei goes ar ôl damwain beicio mynydd union flwyddyn yn ôl!

“Roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i Ysbyty Bronglais ac rydyn ni i gyd yn adnabod rhywun sydd wedi cael triniaeth am ganser,” ychwanegodd Dallas, sy’n 50 oed. “Gallai canser ddigwydd i unrhyw un ar unrhyw adeg ac mae gallu cael gofal yn agos i gartref mor bwysig.”

Nod Apêl Cemo Bronglais yw codi’r £500,000 terfynol sydd ei angen ar gyfer y gwaith adeiladu i ddechrau ar uned ddydd cemotherapi bwrpasol newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais, er mwyn gwella profiad y claf yn fawr.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i: www.elusennauiechydhyweldda.org.uk