Lansio Sioe Frenhinol Cymru Ceredigion 2024

Dros 400 o bobol yn y cinio

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies
IMG_0252

Ddydd Sul, Hydref 9fed ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid cynhaliwyd Cinio Lawnsio Sioe Frenhinol Cymru Ceredigion 2024 gyda dros 400 o bobl yn bresennol.

Cegin Gwenog, Llanwenog oedd â’r dasg i weini’r bwyd a chafwyd gwledd o fwyd wedi’i baratoi ganddynt.

Denley Jenkins, Fferm Pantrodyn, Brongest fydd Llywydd Sioe Ceredigion yn 2024 a chyhoeddwyd ar y diwrnod mai Esyllt Ellis-Griffiths, Fferm Cefnrhuddlan-Isaf, Llanwenog fydd Llysgennad y sioe. Daw Esyllt yn wreiddiol o Fferm Pantlleinau, Bontnewydd ger Aberystwyth ac yn un o dripledi ond wedi symud i fyw i Cefnrhuddlan rhai blynyddoedd yn ôl gyda’i gŵr Llyr. Priododd y ddau yn gynt eleni.

Ar ôl y ginio diddanwyd y gynulleidfa gan Fois y Rhedyn o ardal Llanddewi Brefi a chafwyd hefyd Ocsiwn gyda Llyr Jones, Horeb yn ocsiwniar. Dechreuad da i ymgyrch codi arian.

Rhai digwyddiadau eraill codi arian yng nghanol y sir o fewn y misoedd nesaf fydd:

21.10.22 – Bingo yng Ngwesty’r Grannell, Llanwnnen.

4.12.22 – Cymanfa Garolau yng Nghapel Mydroilyn.