Llai na wythnos i fynd!!

Hir yw pob aros…..ond mae Llambed yn barod am Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020…wps 2022!!!!

gan Carys Lloyd-Jones
20220721_105726
20220722_144942
20220722_153026
received_757781785638883
received_1332133417315482

HIR YW POB AROS….ond dim llai na wythnos i fynd tan noson agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ac mae yna ‘GROESO’ heb ei ail ym mhob cwr o Geredigion.

Os fyddwch yn dod mewn i Lambed o ochrau Llanwnnen fe welwch arwydd lliwgar i’ch croesawu. Mae’r arwydd wedi ei greu gan griw bach brwdfrydig a ddaeth at ei gilydd i greu’r campwaith.

Mae llawer o drafod, chwerthin ac wrth gwrs peintio wedi digwydd yn ystod y 4 diwrnod diwethaf. Cyfle i gael hwyl a chyfle i greu atgofion gyda’n gilydd.

Sdim byd gwell na ’Steddfod i gael cymuned i ddod at ei gilydd!

Cyn gorffen hoffwn ddiolch i’r canlynol am eu cyfraniadau a’u cymorth:

Granville a Menna, Garej G and M, Pontfaen.

Rhian ‘Twynog’ am y weledigaeth.

Haf Meredith am gynllunio.

Pwyllgor ’Steddfod Llambed.

Cwmni Travis Perkins, Llambed.

Alex Biddulph, Saer Coed.

Jeff Evans. Peintiwr ac Addurnwr.

Angharad, Cara, Carys D, Carys Ll-J, Efa, Gwion, Sara a Tomos am y gwaith peintio.

Dylan, Dyfed, Fflur a Lowri am y ’man power’.

Aeron Hughes Cwmhendryd  am y polion.