Llambed 31 – Aberaeron 24

Gêm ddarbi gyffrous yn diddanu torf enfawr ar Sadwrn y Pasg!

gan Geraint Thomas

Llifodd torf helaeth o bobl i Ffordd y Gogledd ar ddydd Sadwrn, mewn heulwen braf, i wylio trydedd gêm y tymor rhwng y cymdogion agos, Clwb Rygbi Llambed a Chlwb Rygbi Aberaeron.

Er fod yr haul yn gwenu, roedd gwynt cryf yn chwythu tuag at y Clwb. Yr ymwelwyr o Aberaeron a wnaeth y mwyaf o’r fantais yma yn yr hanner cyntaf, gan bwyso yn 22 y tîm cartref am ran fwyaf o’r 40 munud agoriadol. Daeth eu pwyntiau agoriadol o droed eu maswr, Rhodri Jenkins, ar ôl ond ychydig o funudau. Tarodd y tîm cartref yn ôl yn syth. Ar ôl rhediad nerthol lawr yr asgell dde gan Jac Williams, daeth tri chwip o bas gan y mewnwr Dion Hughes, maswr Osian Jones a’i frawd, y canolwr Tomos Rhys Jones i ryddhau’r asgellwr chwith, Carwyn Lewis. Methu a wnaeth Osian Jones gyda’r trosiad mewn i’r gwynt.

Daeth cic gosb arall yn syth i’r ymwelwyr, a llwyddodd Jenkins unwaith eto gyda’i droed i adfer y fantais, 6-5 i Aberaeron. Yn wir, yn ôl ac ymlaen fel cath a chi oedd y sgorio trwy gydol yr hanner cyntaf. Doedd y ’marwns’ ddim yn gallu ennill llawer o bêl lân, oherwydd nerth a maint pac y bois o lan y môr, ond roeddent yn edrych yn beryglus tu hwnt pob tro iddynt lwyddo. Daeth cais arall i’r asgellwr Carwyn Lewis, yn y cornel de tro yma, eto yn dilyn gwaith destlus gan y brodyr Jones. Roedd digon gan Lewis i’w wneud, ond gorffennodd y cyfle yn wych i roi’r tîm cartref ar y blaen o 10 i 6.

Aberaeron a ddominyddodd 20 munud olaf yr hanner cyntaf. Ciciodd Jenkins gic cosb arall, ac fe wnaeth drosi cais gan y prop pen tynn, Alex Danton i wneud y sgôr ar yr hanner yn 16-10 i Aberaeron.

Dechreuodd y bechgyn o Lambed ar dân yn yr ail hanner. Yn wir, yn dilyn y 10 munud agoriadol roeddent wedi troi’r sgôr o gwmpas i fod yn ennill 24-16. Penderfynwyd rhedeg cic gosb, penderfyniad doeth gan y capten James Edwards (a gafodd ei ddyfarnu’n seren y gêm) wrth i’r wythwr Ifan-John Davies groesi yn y cornel yn dilyn dwylo chwim gan Ryan Holmes, Osian Jones a Glyn Jones. Troswyd y cais gan Osian Jones.

Yn fuan wedyn, daeth cais cosb i Lambed yn dilyn sgarmes symudol rymus. Dangosodd y bachwr, John Heath, reolaeth arbennig i lywio’r sgarmes tuag at y pyst, a doedd dim dewis gan y dyfarnwr ond barnu bod wythwr yr ymwelwyr, Aaron Lewis, wedi dymchwel y sgarmes yn anghyfreithlon. 7 pwynt i’r tîm cartref a cherdyn melyn i’r wythwr, a daeth munudau yn unig ar ôl cerdyn melyn i’r blaenasgellwr, Gethin Dafis. Roedd yr ymwelwyr lawr i 13 dyn, ond yn anffodus i’r ’marwns’ ni lwyddon nhw i gymryd unrhyw fantais o’r sefyllfa, rhywbeth a ddanfonodd yr hyfforddwyr, Geraint a Huw Thomas yn gandryll ar ochr y cae.

Yn wir, Aberaeron sgoriodd y pwyntiau nesaf, 3 phwynt o droed Jenkins i ddod â’r sgôr yn 24 i 19 gydag ugain munud i fynd. Yr ymwelwyr oedd yn pwyso unwaith eto yn 22 Llambed pan rhyng-gipiodd Carwyn Lewis y bêl a rhedeg 80 metr i sgorio a chyflawni ei hat-tric. Trosodd Jones gais arall, 31-16 i Lambed.

Unwaith eto, yn ôl a ddaeth yr ymwelwyr. Gyda Llambed nawr lawr i 14 dyn, yn dilyn cerdyn melyn i’r prop, Ryan Kelechandra, sgoriodd y cawr o ail reng, Gethin Hughes gais i wneud y sgôr yn 31-24. Pwyso a phwyso a wnaeth Aberaeron tan yr eiliad olaf. Yn wir, cafwyd eu dal lan dros y linell gais yn eiliadau olaf y chwarae; yn debyg iawn i eiliadau olaf y gêm gyntaf rhwng y ddau y tymor yma, nôl ar ddydd Sadwrn Gŵyl y Banc mis Awst.

Mae wedi bod yn dymor hir, ond fe adawodd y dorf yn hwyr bnawn Sadwrn yn falch iawn o berfformiad y ddau dîm, gyda nifer o wynebau ifanc yn arwain perfformiadau corffol, grymus a llawn sgil. Perfformiadau sy’n dangos, er gwaethaf stad y gêm yn broffesiynol yng Nghymru, bod dyfodol disglair o flaen y ddau glwb yn y rhan hon o Orllewin Cymru.