Llanbed yw’r unig glwb yng Nghymru sydd â dau dîm yn y rowndiau terfynol yn Stadiwn Principality

Tîm Ieuenctid a Thîm Merched Llanbed wedi llwyddo i gyrraedd diwrnodau mawr Undeb Rygbi Cymru.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Tîm Rygbi Merched Llanbed ar daith ar ddechrau Ebrill.

Tîm Rygbi Merched Llanbed ar daith ar ddechrau Ebrill.

Clwb Llanbed yw’r unig glwb yng Nghymru sydd â dau dîm yn rowndiau terfynol rygbi yn Stadiwn y Principality eleni.

Mae Stadiwm Principality yn paratoi ar gyfer naw diwrnod prysuraf y flwyddyn pan fydd yn croesawu mwy nag 800 o chwaraewyr a fydd yn brwydro am 28 o deitlau gwahanol fel rhan o Rowndiau Terfynol URC yn y Principality.  Bydd chwaraewyr talentog Llanbed yn rhan o ddwy gystadleuaeth blaengar yno.

Bydd y gemau cyntaf ar gyfer rhai o lestri arian mwyaf gwerthfawr rygbi Cymru yn dechrau ddydd Sadwrn, 23ain Ebrill gyda Rowndiau Terfynol Cenedlaethol Ieuenctid lle bydd tîm ieuenctid Llanbed yn chwarae yn erbyn Llandaf am 11.00yb.

Ar ddiwrnod olaf ond un y pencampwriaethau sef dydd Sul 1af Mai bydd Diwrnod Rownd Derfynol y Merched Hŷn gyda thîm merched Llanbed yn chwarae’r Coed Duon am 3.15yp.

Mae’r tocynnau ar werth ar-lein yn wru.cymru/tocynnau ac ar y diwrnod yn Swyddfa Docynnau URC, Heol y Porth.

Os oes diddordeb gan unrhyw un i fynd ar y bws i gefnogi’r tim Ieuenctid a’r merched yng Nghaerdydd rhowch eich manylion ar y rhestr sydd yn y clwb.
Bydd y pris rhwng £10 a £15 yn dibynnu ar niferoedd.  Amseroedd gadael Llanbed i’w cadarhau.