Llanbedr Pont Steffan yn barod i groesawu Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion

Addurniadau lliwgar a thrawiadol yn harddu Llanbed

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
E65F09F1-613A-43F2-8DA4-C589EB15D147
B9B24F09-AAC5-463F-86E4-B45F7184C3D4
9FD8EB20-E1CF-4CCA-AAAA-AFA03937B0B4
2153622F-7700-4759-BAFF-33F7CB9198A3
7BA13F9C-60D2-4149-867E-EE79C22D17FF
27CC0E1A-2B15-480D-8271
59823B47-FBDF-4447-8E49
43A0FB63-F338-4B96-AAFA

A ydych wedi sylwi’n ddiweddar ar faneri’r Ddraig Goch sy’n harddu tref Llanbed? Gosodwyd dros gant ohonynt yn y bracedi sydd wedi eu gosod ar furiau nifer o fusnesau’r dref.

Cyngor Tref Llanbed sydd wedi ariannu’r baneri. Maent yn eu lle yn barod i groesawu’r holl eisteddfodwyr fydd naill ai’n teithio drwy neu’n aros yn Llanbed ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion a gynhelir yn Nhregaron.

Mae Pwyllgor Cronfa Apêl Llanbed Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn ddiolchgar iawn i’r Cyngor Tref am ariannu a gosod y baneri. Diolch hefyd am y nawdd a dderbyniwyd oddi wrth nifer o fusnesau’r dref i osod dros gant o’r rhubanau’r Ddraig Goch yn ffenestri siopau Llanbed.

Gosodwyd hefyd nifer o baneli lliwgar a thrawiadol oddi amgylch y dref i groesawu pawb i Lanbed ac i Fro Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion 2022. Gwnaed nifer ohonynt gan ddisgyblion Ysgol Bro Pedr gan ddiolch iddynt a’u hathrawon, yn arbennig Llinos Jones am eu campweithiau.

Os ewch am dro heibio Capel Noddfa, Heol y Bont, mi welwch ôl dwylo plant Ysgol Sul Noddfa. Diolch iddynt ac i Janet Evans am faner mor liwgar.

Cynhelir amrywiaeth o ddigwyddiadau yn Llanbed dros yr Haf. Dewch i Ffair Fwyd Llanbed gynhelir ar Gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar ddydd Sadwrn 23ain Gorffennaf.

Bydd cyn-fyfyrwyr y Brifysgol yn ymweld â’r dref dros Benwythnos Aduniad y Brifysgol o’r 22ain hyd 25ain Gorffennaf.

Mae eleni’n flwyddyn bwysig i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant oherwydd mae’n dathlu dau ganmlwyddiant ers ei sefydlu yn 1822. Fel rhan o ddathliadau’r Brifysgol cynhelir gorymdaith yn Llanbed ddydd Gwener 12fed Awst.

Bydd croeso cynnes i chi hefyd yn Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen gynhelir dros benwythnos Gŵyl Banc Awst. Edrychir ymlaen at eich gweld yn Eisteddfod Llanbed ar Gampws y Brifysgol 27ain, 28ain a’r 29ain Awst.