Llawysgrif Gwaed y Mynach, sy’n dyddio o’r 13eg Ganrif, yn rhan o gyfres o arddangosfeydd i ddathlu daucanmlwyddiant Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Gallwch weld llawysgrif ganoloesol sy’n dyddio o tua 1200 Oed Crist mewn arddangosfa o gasgliadau arbennig sy’n dathlu daucanmlwyddiant Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar gampws Llambed y Brifysgol.

gan Lowri Thomas

Yr eitem hynaf sydd yng nghasgliad y llyfrgell, cafodd yr enwog lawysgrif Gwaed y Mynach ei chynhyrchu tua 1200 Oed Crist, ac yn ôl pob sôn, mae hi wedi ei staenio â gwaed mynachod Bangor Is-y-coed.  Er mai chwedl yw hyn, mae’r gwaith, sy’n rhan o Alphabetum in artem sermocinandi Pedr o Capua, yn cynrychioli un o’r arbrofion alffabeteiddio cyntaf.

Yn cynnwys casgliad o ddarnau allan o’r Beibl, cynlluniwyd llawysgrif Gwaed y Mynach i helpu pregethwyr ddod o hyd i destunau ar gyfer eu pregethau. Mae’r gwaith hwn yn cynrychioli un o’r arbrofion cyntaf i drefnu eitemau yn ôl trefn yr wyddor, ac felly, mae’n rhagflaenydd i bob geiriadur a gwyddoniadur copi caled.

Yn bennaf, mae’r llawysgrif hon yn enwog oherwydd y staenau sydd ar ychydig o’i thudalennau olaf. Yn 1870, disgrifiodd George Borrow ei ymweliad â Llambed yn ei lyfr Wild Wales fel a ganlyn, ‘’The grand curiosity is a manuscript Codex containing a Latin synopsis of Scripture which once belonged to the monks of Bangor Is y Coed.  It bears marks of blood with which it was sprinkled when the monks were massacred by the heathen Saxons, at the instigation of Austin, the Pope’s missionary in Britain.”

Yn ddigon disgwyliadwy, mae’r hanes uchod yn gronolegol amhosibl. Dywedwyd bod y gyflafan wedi digwydd yn gynnar yn ystod y 7fed ganrif, ond ni all y llawysgrif hon fod yn gynharach na’r 12fed ganrif hwyr.  Er bod y staenau yn edrych fel gwaed, gallant yr un mor debygol efallai fod yn staenau gwin!

Meddai Ruth Gooding, Llyfrgellydd y Casgliadau Arbennig: “Rydym bron yn sicr mai’r gyfrol hon, sydd yn ôl pob tebyg yn dyddio o deyrnasiad naill ai Rhisiart I neu Ioan, yw’r eitem enwocaf a’r hynaf yn ein casgliadau. Heb os, mae’r casgliadau hyn yn drysor, nid dim ond i’r Brifysgol, ond hefyd i Gymru.”

“Maent yn cynnwys dros 30,000 o gyfrolau a argraffwyd rhwng 1470 a 1850, yn ogystal ag wyth llawysgrif ganoloesol a 100 o lawysgrifau ôl-ganoloesol.”

Mae’r arddangosfa yn rhan o gyfres o arddangosfeydd ffisegol ac ar-lein sydd wedi ei threfnu  gan staff Llyfrgell y Brifysgol i ddathlu daucanmlwyddiant sefydliad Coleg Dewi Sant ar Awst 12fed 1822. Mae cyfres o arddangosfeydd a seminarau wedi cael ei threfnu ar gyfer y flwyddyn gyfan er mwyn tynnu sylw at y Casgliadau Arbennig sydd i’w cael yn Llyfrgell ac Archifau Roderick Bowen, a leolir ar gampws Llambed y Brifysgol.