Llif Byw Is-Etholiad Ward Llanbed.

Y diweddaraf o ddiwrnod Is-Etholiad Ward Llanbed.

gan Ifan Meredith
853EC137-BD31-4BD4-B8DA

Mae’r Orsaf Bleidleisio yn Neuadd Fictoria wedi agor ac yn agored tan 10 heno i bleidleiswyr fwrw eu pleidlais.

Mae yna bedwar ymgeisydd yn yr Is-Etholiad, Ann Morgan o Blaid Cymru, Sandra Jervis o’r Democratiaid Rhyddfrydol, Dinah Mulholland o’r Blaid Lafur a Lee Cowles yn Annibynnol.

00:13

Cyfweliad gydag ennillydd y bleidlais, Ann Morgan o Blaid Cymru. 

23:53

Cyfri wedi dod i ben a’r canlyniadau fel y canlynol:

Ann Morgan, Plaid Cymru- 291

Sandra Jervis, Democratiaid Rhyddfrydol- 267

Dinah Mulholland, Plaid Llafur Cymru- 160

Lee Cowles, Annibynnol- 18

17:40

Y pleidleisio yn parhau yn Neuadd Fictoria gydag ymddangosiadau tu allan gan yr ymgeiswyr yn ystod y dydd heddiw.
Y diweddaraf o’r Is-Etholiad ar lif byw Clonc360.